Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DENG AIR DEDDF. NA foed it dduwiau ond Myfi, Addoli Un yw'r gamp i ti; Cerfiedig ddelw na fyn chwaith, Ni ddaw dim elw o dy waith; Nid oes un ddelw ddyry les, A llwydd ni ddaw o honi'n nes Paid a melltithio: mae'n ddi-rym, Ac arnat ti daw'r gosbyn llym; Addola Dduw, santeiddia'i ddydd, A pharch a phurdeb iti fydd; O anrhydeddu'th dad a'th fam Dy foes a gedwir yn ddi-nam; Y mawrion dyro iddynt barch, Cyflawna'n rhwydd eu teilwng arch; Na ladd, mae hawl i druan fyw, Pob bywyd cysegredig yw; Na wna odineb: gyrfa lân A chysur sydd yn ddiwahan; Ac na ladrata: drwg yw'r gwaith, Ni ddwg i'th fywyd fendith chwaith, Ar gam-dystiolaeth tra'n y byd Na ddyro byth dy serch a'th fryd; Gan gelwydd mae adenydd chwim I'th godi'n uwch, ni thycia ddim; Na chwennych eiddo arall byth, Neu drain gofidiau ddaw i'th nyth; Wrth garu Duw a dyn bob awr Dy eiddo a fydd bendith fawr; 0 gadw'r teg orchmynion hyn, Dy oes fydd hardd a'th barch yn wyn. Llanon, Ceredigion. lOAN RHYS.