Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. NODIADAU CYFFREDINOL. Gyda'r rhifyn hwn o'r TRAETHODYDD, cychwynnir pennod newydd yn hanes cylchgrawn chwarterol hynaf Cymru. Er dechrau ei yrfa yn y flwyddyn 1845, parhawyd i'w gy- hoeddi'n ddifwlch ac eithrio yn ystod y flwyddyn 1861. Fel y gallesid disgwyl, bu newid goruchwyliaeth yn ei hanes droeon; ac nid gormod ydyw dywedyd iddo adnewyddu ei ieuenctid fwy nag unwaith. Bell- ach bydd dan ofal Bwrdd o Olygwyr, pump o frodyr, dau o'r Deheudir (er bod un o'r rheini bellach yn y Gogledd), a dau o'r Gogledd, ynghyda'r Golygydd blaenorol yn llywydd y Bwrdd. Bwriedir newid ychydig- ar ei wisg, a llawer ar ei gynnwys; ond gobeithir cadw'i nodweddion gorau, a gwella arnynt, os gellir. Gwelir gair newydd yn y deffiniad a roddir o'i amcan chwanegwyd Diwinydd- iaeth at y tri maes a nodid gynt, ac o hyn allan ceisir iddo fod yn "gylchgrawn chwarterol at wasanaeth Crefydd, Diwinyddiaeth, Athroniaeth a Llenyddiaeth." Nid anniddorol, ni gredwn, a fyddai ysgrif ynddo ar ei hanes ef ei hun. Pennod nid anenwog. na bychan chwaith ei dylanwad ar hanes Cymru, yw ei gamre. A dyfynnu geiriau'r Parch. D. D. Williams, M.A., yn Llawlyfr Hanes y Cyfundeb: "Gellir edrych ar gyhoeddiad Y TRAETHODYDD yn ddechrau cyfnod newydd yn hanes llenyddiaeth Gymraeg. Lled gyfyng oedd cylch gweled- iad y corff o Gymry deallus, bychan oedd eu bryd, hyd yr adeg hon, ond agorodd Y TRAETHODYDD eu llygad ar fyd ehangach. Bu'n foddion i ddwyn cynnyrch meddwl gorau gwledydd eraill o fewn cyrraedd Cymry uniaith. Talodd Golygyddion a hyrwyddwyr Y TRAETHODYDD