Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR EGLWYSI A'R GYMRAEG. Y GYMRAEG MEWN ADDYSG A BYWYD ydyw'r teitl a roddir i Adroddiad y Pwyllgor Adrannol ar y Gymraeg yng Nghyfundrefn Addysg Cymru." Cyhoeddwyd yr Adroddiad beth amser yn ôl, a derbyniodd a pharha hefyd i dderbyn mesur lled helaeth o sylw. Cytunir yn lled gyff- redinol ei fod yn Adroddiad gwych a diddorol; er y dy- wed rhai o'r uwchfeirniaid na ellir dibynnu arno'n gyfan- gwbl mewn materion hanesyddol. Ceir ynddo gipdrem ar safle'r Gymraeg fel aelod o'r teulu Ewropeaidd a'r peryglon a fu'n bygwth yr iaith o bryd i bryd. Hynod ddiddorol ac addysgiadol yw'r dra- fodaeth parthed y materion canlynol, a theflir goleuni newydd ar rai ohonynt, sef, y cysylltiad agos rhwng yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig; addysg yng Nghym- ru yn y Canol Oesoedd; urddas yr iaith o gyfnod Dafydd ap Gwilym hyd Dudur Aled; sefydlu Ysgolion Gramadeg yng Nghymru; yr iaith Gymraeg yn yr ail ganrif ar bymtheg; yr Ysgolion Teithiol; y Diwygiad Methodist- aidd; y wladwriaeth ac addysg; y sefyllfa heddiw. Dylai'r Adroddiad fod yn llyfrgell pob eglwys a chapel yng Nghymru; a chredaf y byddai'n fantais, nid yn unig i'r iaith Gymreag ond hefyd i'r bywyd ysbrydol, pe dygid yr Adroddiad i sylw'r cynulleidfaoedd drwy Gymru ben- baladr. Mae cysylltiad agos rhwng iaith cenedl a'i chrefydd. Medd pob cenedl ddull neilltuol iddi ei hun o agosáu at Dduw, ac o sylweddoli pethau ysbrydol; ac mae llawer o brofiad a chyfoeth ysbrydol cenedl wedi ei gorffori a'i gadw yn ei hiaith a'i llenyddiaeth. Pwy all ddywedyd faint o gyfoeth ysbrydol Cymru sy'n drysoredig yn ei hemynau Golyga colli ei hiaith i genedl golli llawer o'i chyfoeth ysbrydol, nid yn unig y cyfoeth a welir, ond yr ystôr guddiedig honno yn ei hymwybyddiaeth y sydd o werth amhrisiadwy i genedl mewn adeg o gyfyngder. Ymddengys oddi wrth yr Adroddiad na wnaeth neb na dim fwy tuag at gadw'r Gymraeg yn fyw, na thuag