Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFR DEUTERONOMIUM: EI DARDDIAD A'I AMSERIAD. I. FE gydnabyddir am Deuteronomium ei fod yn un o lyfrau mwyaf diddorol yr Hen Destament, a hefyd y trewir mewn rhannau ohono dant sydd mor uchel ag odid ddim yn yr Ysgrythur. Nid rhyfedd ddarfod i'r Arglwydd Iesu ddyf- ynnu mor helaeth ohono yn ystod ei weinidogaeth. Peth cymharol ddiweddar hefyd yw'r diddordeb hwn a deimlir yn y rhan hon o lenyddiaeth yr Hebrewr; dechreuodd pan gysylltwyd y llyfr â'r diwygiad a fu yn amser y brenin Ioseia, tua 621 C.C. Cafwyd rhyw lyfr, llyfr y cyfar- wyddyd," yn nheml Iafe yng Nghaersalem a diwedd hynny a fu darllen y llyfr cyfamod hwn ar ddydd ar- benníg, a'i wneuthur yn llyfr awdurdodedig crefydd teyrn- as y De. Ail-drefnwyd defodau ac ordinhadau crefydd yn ol gorchymynion y llyfr hwn. Cynhaliwyd pasg ardderch- og, un na bu ei fath erioed cyn hynny; a gwnaeth y brenin a'r bobl gyfamod ger bron Iafe i gyflawni geir- iau'r cyfamod hwn, y rhai oedd ysgrifenedig yn y llyfr hwn." Ceir yr hanes yn bur fanwl yn 2 Bren. xxii. — xxiii. Ymhlith y cyfnewidiadau a wnaed yn amser Ioseia yr yd- oedd puro teml Iafe, ei glanhau oddi wrth ddefodau a gys- ylltid â chrefydd Baal, halogi'r uchelfeydd oedd o Geba hyd Beerseba, canolfannu'r holl addoli yn y deml yng Nghaersalem ddinas, a cheisio dwyn yno'r holl offeiriaid a wasanaethai yn yr uchelfeydd gwledig hyn. Pan ofynnid pa lyfr ydoedd hwn a gafwyd yn nheml Iafe, yr ateb a roddid yn gyffredin ydoedd mai Llyfr Deu- teronomium, neu'n arbennig ran ohono, pen. xii.­xix., xxvi. a xxviii. dyweder. Cytunai'r mwyafrif o haneswyr ac esbonwyr diweddar fod y rhan hon o'r llyfr hwn yn cyf- ateb yn rhagorol i'r hyn allasai beri'r newid mawr a ddar- lunir yn hanes Ioseia. A phan ofynnid drachefn pa bryd tybed y cyfansoddwyd y llyfr, tybid mai naturiol 'hollol ydoedd ei lunio, neu ei gasglu, yn ystod teyrnasiad y brenin Manase, gwr oedd o ysbryd gwahanol iawn i'w