Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWERTH EFRYDU MEDDYLEG I WEINIDOG. DRUAN o'r gweinidog a'r pregethwr! Onid oes ganddo ddigon o feysydd efrydiaeth yn barod ? Paham ychwan- egu at ei bwn ? — oni ddywedwn, fel Barry yn ei lyfr gwych Christianity and Psychology, y gellid fforddio taflu dros y bwrdd amryw o bynciau a efrydir yn bresennol er sicrhau meistrolaeth ar y pwnc hwn. Diau fod pob gwy- bodaeth tuallan i'w gylch arbennig fel efrydydd o Air Duw a Diwinyddiaeth yn werthfawr i bregethwr, ac felly da fyddai iddo feddu rhyw syniad am ddysgeidiaeth y gwyddorau naturiol. Ceidw hynny ei feddwl yn effro, cynysgaeddir ef â defnyddiau diddorol a ffres i egluro'r gwirionedd, gwaredir ef rhag culni meddwl, a thrwy hynny ennill yntau barch ei wrandawyr, a sicrha hefyd eu sylw a'u hastudrwydd. Ond ni ddichon yr un pregethwr fod yn hyddysg yn yr holl feysydd hyn, a rhaid yw iddo ddewis; a chan fod a wnelo ef yn arbennig â "materion enaid," buasem yn tybio y gallai'r wyddor ieuanc Medd- yleg,' fod o fwy budd iddo ef yn ei waith na'r un o'r gwyddorau. Credwn gyda llaw y dylai fod yn rhan han- fodol o gwrs pob ymgeisydd am y Weinidogaeth, a da gennym ddeall fod hyn i raddau yn wir am ein Coleg yn y Bala. Ni chyffwrdd Daeareg, Seryddiaeth na Llysieueg ond â phethau ailraddol a chymharol ddibwys i'r pregethwr. Ond y mae a wnelo Meddyleg Ddiweddar â hanfodion crefydd, megis Datblygiad y Gred yn y Bod o Dduw, ac Anfarwoldeb, Troedigaeth yr Enaid, Gweddi, Addoliad, Addysg Grefyddol a Meithriniad Cymeriad. Da yw gwy- bod am yr uwchfyd yn y ffurfafen, ond mwy buddiol yw adnabod yr is-fyd yn enaid dyn. Diddorol yw gwybod am yr haenau daearegol yn y ddaear, ond gwell yw gwybod am yr haenau y sydd yn nyfnderoedd y galon. "Chwilia, f'enaid, gyrrau'th galon. Brithir y Cynghorion' a draddodwyd yn y Cyfarfod- ydd Ordeinio ag anogaethau i'r pregethwyr ieuainc, nid yn unig i lafurio i wybod y gwirionedd, ond hefyd i feith-