Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YSBRYD GLAN YN Y TESTAMENT NEWYDD. Y MAE'R pwnc hwn yn un mawr a phwysig ac y mae iddo lawer o agweddau. Ac y mae'n bwnc mor anodd ag ydyw o amlochrog. Yn wir, prin y mae pwnc anos yn holl gylch diwinyddiaeth y Testament Newydd. Yn yr ysgrif hon, ein hamcan a fydd ceisio ateb y cwestiwn, Beth yw syniad y Testament Newydd am yr Ysbryd Glân ? I. Gofynnwn y cwestiwn yn y ffurf yna heb gymryd yn ganiataol mai un syniad, fel y cyfryw, sydd yn y T.N. Oblegid y mae'n rhaid wynebu'r cwestiwn a ydyw'r gwa- hanol lyfrau yn y T. N. yn gyson yn eu dysg am yr Ys- bryd Glân? A ydyw'r syniad a gawn ni yn yr Efengylau Cydolygol, er enghraifft, yr un â'r syniad a gawn ni gan Pau1 ? A ydyw syniad Paul yr un ag eiddo Ioan ? Ie, gellir gofyn, a ydyw syniad Paul bob amser yn gyson, ynteu a welir datblygiad, neu hyd yn oed gyfnewidiad trwyadl yn ei ddysg ef am yr Ysbryd yn yr Epistolau di- weddaf o'u cymharu â'r rhai cyntaf? Heb fyned i mewn yn fanwl i'r cwestiynau hyn, gellir dywedyd, á siarad yn gyffredinol, y gwêl rhai ysgrifen- wyr diweddar dri syniad o'r hyn lleiaf am yr Ysbryd Glân yn y T. N. Y cyntaf o'r tri ydyw yr un a geir yn yr Efengylau Cydolygol ac yn yr Actau. Yma, meddir, gwelwn y syn- iad cyntefig, syniad yr Eglwys Gristnogol yn ei chyfnod cyntaf, am yr Ysbryd Glân. Ac y mae'r syniad hwn yn llinell uniongyrchol dysg yr Hen Destament am yr Ys- bryd ac yn ddatblygiad naturiol ohono. Yn ôl hwn, rhyw allu neu ddylanwad goruwchnaturiol y sy'n disgyn ar bersonau arbennig ac ar ade'gau neilltuol, ydyw'r Ysbryd. Ef yw'r gallu y sy'n ysbrydoli'r proffwyd a'r gweledydd, yn cynhyrchu'r ecstasi crefyddol ac yn peri i ddynion deimlo pethau nad adnabu'r byd, a'u gweled a'u