Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

EFFEITHIAU DIWINYDDIAETH IDDEWIG AR GRISTNOGAETH. II. MEWN ysgrif flaenorol* ceisiwyd egluro i ba raddau y dyl- anwadodd diwinyddiaeth Iddewig y ddwy ganrif cyn Crist ar ddysgeidiaeth y Testament Newydd. Dangoswyd nad diffrwyth ydoedd y cyfnod hwnnw "rhwng y ddau Desta- ment," ond bod Ysbryd Duw'n paratoi'r ffordd at ddysg- eidiaeth Crist. Sylwyd yn yr ysgrif honno ar y syniad Iddewig am Deyrnas Dduw ac fel y datblygwyd hwnnw gan yr Arglwydd Iesu yma ymdrinir â dwy agwedd arall i'r pwnc. BYWYD TRAGWYDDOL. Dywedwyd gennym y gellir olrhain yr athrawiaeth am Deyrnas Dduw yn ôl i'r proffwydi. Sonnid llawer gan- ddynt am Ddydd yr Arglwydd," dydd gogoneddu Seion a darostwng gelynion ei bobl. A dywedid hefyd am ddyl- ifiad pobl lawer a chenhedloedd cryfion i Judah ac i Jeru- salem, ac fel y byddai i'r cenhedloedd hynny ddwyn eu trysorau i harddu lle'r Arglwydd. A dymunol bethau yr holl genhedloedd a ddaw (Haggai ii. 7). Ond ni ellir dywedyd i'r mater dan sylw yn awr, sef Bywyd Tragwyddol, gael un lle yng ngweinidogaeth y proffwydi. Yr oedd a wnelo proffwydoliaeth yn arbennig â'r presennol, o'r hyn lleiaf yn y cyfnodau cyntaf yn eu hanes. Cyfyngent eu sylw i'r byd a'r bywyd hwn, a hefyd i'r genedl fel y cyfryw. Sylwer ar y ddau beth hyn (I) Fod pob daioni pa un bynnag ai i genedl Israel, ai ynteu i genhedloedd eraill trwy genedl Israel, i ddyfod iddynt yn y byd hwn; (2) Mai am y genedl yn ei chyfanrwydd yn unig y meddylid. Ceid proffwydi diweddarach, fel Jeremeia ac Eseciel, yn trafod tynged y person unigol, ac yn datblygu athraw- Gwel. Y TRAETHODYDD, Hydref 1928.