Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TESTAMENT NEWYDD A'I LENYDDIAETH. I. PAN ymddangosodd Esboniad Peake ar y Beibl ychydig flynyddoedd yn ol, cwynai adolygydd yn yr Hibbert Journal fod gormod o Ie wedi ei roddi i'r Hen Destament ynddo: a phroffwydodd y cymerid canlyniadau'r efrydu dyfal a fu ar yr Hen Destament yn ganiataol yn y dyfodol ac y telid y sylw mwyaf o hyn allan i'r Testament Newydd. Y mae, ar y cyfan, yn wir mai ynglýn â'r Hen Destament y bu'r brwydro mwyaf yn y maes hwnnw y gosodwyd i lawr egwyddorion a dulliau y ffordd newydd o astudio'r Beibl, ac am olygiadau ar yr Hen Destament, a ymddengys erbyn hyn yn lled ddiniwed, y condemniwyd Colenso a Robertson Smith gynt. Gwir a ddywedodd gwrthwyneb- wyr y dulliau newydd mai tro y Testament Newydd a ddeuai nesaf eithr, pan ddaeth, bu'r helynt a'r twrw gryn lawer yn llai na chynt. Yr oedd y frwydr dros ymchwil hollol agored a diduedd eisoes wedi ei hennill yn yr hen faes. A pheth arall, yr oedd ymchwil o'r natur yma yn nodweddiadol o wybodaeth ym mhob can'gen ohoni erbyn hyn, ac ni ellid honni y dylai un math ar egwyddorion ein llywodraethu mewn rhai canghennau neilltuol o wybod- aeth a math hollol wahanol mewn rhai eraill. Chwaneg, nid oedd neb a gredai'n wirioneddol yn y Testament New- ydd yn dymuno ei gádw dan lestr. Yr oedd cymaint o wir ynddo fel y safai hwnnw ac nid oedd ganddo ddim i'w ofni, deued goleuni arno o'r man y delai. Ac ers mwy na chen- hedlaeth bellach talodd mintai fawr o weithwyr ymrodd- edig sylw arbennig i'r Testament Newydd. Beth am ganlyniadau'r astudiaeth hon o'r Testament Newydd? Gadawer i ddau ddyfyniad ateb. Meddai Dr. Alexander Whyte mor bell yn ol ag 1889: Y problemau hanesiol esboniadol a diwinyddol mewn perthynas â'r Testament Newydd a'i efrydiaeth yn ein dyddiau ni nid heresÏau undydd unnos meddyliau aflon-