Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIADAU. ILIAD HOMER. Cyjieithiadau gan R. Morris Lewis, gyda Chwan- egiadau, Rhagair a Nodiadau gan T. Gwynn Jones. Td. 139. 3/6. Hughes a'i Fab, Wrecsam. Dyma gyfres o drosiadau gwych, mewn mydr a rhyddiaith, o'r ihannau hynny o'r Iliad a apeliai'n amlwg at naws a chwaeth y cyf- ieithydd. Dau lyfr yn unig, sef i. a xxii., sydd wedi eu rhoddi yn gyfan mewn gwisg Gymraeg ni cheir dim o lyfrau xiii.­xvii. a xix. — xxi. ac o'r llyfrau ereill, ni chyfieithwyd ond cyfran fechan. Ond llenwir y bylchau hyn 'gan grynhodeb, ac weithiau, ambell gyfieith- iad, o waith y golygydd dysgedig, fel y gallo'r darllenydd Cymreig ddilyn rhediad y gân trwyddi. Y mae adrannau meithion o'r arwr- gerdd yn drwmlwythog gan erchyllterau rhyfel, a diau mai greddf gywir a arweiniodd yr awdur i anwybyddu y rhain, ac i ymsefydlu .ar y cyffelyhiaetb.au syml, mawreddog, sydd wedi ei swyno etf, fel pawb arall o ddarllenwyr yr Iliad. Ac eithrio'r ddau lyfr a nodwyd, jyn y cyffelybiaethau neu'r disgrifiadau yr ymhyfryda y darluniau byw, diymdrech hynny o wylltineb neu dangnefedd Natur, 0 lafur- waith heddychol dyn, ac o serchiadau elfennol y galon, a ymddisgleir- ia yng nghanol ysgarmesoedd 'gwaedlyd cwymp Caerdroea. Y mae'r cyfieithiadau hyn yn fanwl, ysgolheigaidd a chaboledig. Anodd dychmygu y gellid eu gwell. Cyfunir ffyddlondeb cynnil i'r gwreiddiol â hoywdei a grym barddonol. Fel enghraifft o'r cynildeb hwn, ni raid ond crybwyll y cytuna bron bob adran â'r gwreiddiol yn nifer y llinellau, ac yn fynychaf, linell am linell. Llwyddir yn rhagorol yn y gamp anodd o gadw nwyí a rhuthr Homer e.g., yn y Mesur Diodl — gylch y llong Rhuai y don borfforwawr, hithau âi, A thrwy'r gwanegau hedai ar ei hynt." neu yn y mesur pymtheg sill, y mesur mwyaf llwyddiannus sydd ganddo Megis pan ar fân gymylau'n dod o'r dehau clir, y cur Gwynt gorllewin ac a'u henfyn ledled draw ar hedfa hir; Amlach amlach yr ymrolia'r wendon, ac ar uchel hynt, Y chwyldroir chwaledig ewyn gan chwibanog wibiog wynt." Ac un enighraifft odidog yn y Mesur Chweban (Hexameter),— Megis pan, yn yr wybren o amgylch y lleuad belydrog, Y syllo'r sêr yn odidog, a'r awyr yn dawel, ddiawel, Ac y dêl allan bob twyn a chlogwyn ysgwyddog, a cheunant- Ac o'r eithafion fry y nefoedd anhraethol ymegyr, A'r sêr i gyd yn y golwg, a'r bugail yn llawen ei galon." Gellid dyfynnu llaweroedd o ddarnau cyffelyb, ond dyna ddigon i awgrymu wyched y cyfieithiad.