Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ychydig iawn o eiiriau llanw a geir yn unlle. Am yr ymadrodd- ion traddodiadol (stock epithets), a ddengys fod celfyddyd yr Epos yn hen pan gyfansoddai Homer, wele hwynt yma yn eu cyfaredd cyn- tefig-" y pell-furmurog fôr," lleithion ffyrdd y don," parablog ddynolryw," etc. Un o'r darnau meithaf, ac un o'r darnau gorau, yn y llyfr yw'r cyfieithiad rhydd o Darian Achilles 0 lyfr xviii. 468­—608. Y mae hwn mor llyfn a chain â dyfyniad o'r Mabinogion. Yma y gwelir rhai trosiadau na buasai pawb yn cytuno â hwynt,-megis y ddinas gadarnfur am efêraton onid annwyl neu dêg a fuasai gy_. wir ? Hefyd pereiddgerdd am linon kalon yn lle c peraidd alar- gerdd Linos.' Yn sicr, dyma un o'r cyfieithiadau gorau a wnaethpwyd o'r hen glasuron i'r Gymraeg. Gwnaethai werslyfr dan gamp i ddosbarth- iadau Cymraeg pe gellid dwyn allan argraffiad rhatach, dyweder mewn amlen bapur neu liain o'r holl lyfr neu o rannau ohono. Dylai yr adran ar Darian Achilles gael lIe mewn unrhyw gasgliad o bigion rhyddiaith Gymreig. Cyflwynir y cyfieithiadau mewn rhagair golau gan yr Athro Gwynn Jones, a rhoes hefyd grynodeb campus o ystori'r Iliad i'w cysylltu. (Fel enghraifft derfynol o grynhoi, gwelir diwedd Llyfr x. ymolchant, ymeneiniant, gwleddant "). Ar y diwedd daw Rhestr Enwau a Nodiad ar y Mesurau a ddefnyddiwyd gan Morris Lewis. Da a fuasai yn yr argraffiad nesaf ,gael rhif y llinellau a gyfieithwyd o bob llyfr mewn ffigurau ar ymyl y ddalen, er hwylustod i'r dar- llenydd. Fel y maent, cafodd un darllenydd gryn drafferth i'w lleoli yn y gwreiddiol. Llanrwst. H. PARRY JONES. CELTIC BARDS, CHIEFS AND KINGS. By George Borrow. Edited from the Manuscriŷt by Herbert C. Wright. London John Murray. (1928). xii.+368 pp. 12/ Yn ôl ymchwiliadau'r golygydd, a osodir allan mewn rhagymad- rodd diddorol dros ben, ysgrifennwyd y llyfr hwn rhwng y flwyddyn 1857, pan fu Borrow ar ei ail daith drwy Gymru, a'r flwyddyn 1861, pryd y cyhoeddwyd mewn cylchgrawn Saesneg ysgrif o'i eiddo sy'n cynnwys cyfeiriad at y gwaith. Ni chyhoeddwyd mo'r llyfr ar y pryd, ond mewn argraffiad o weithiau Borrow, a ddaeth allan yn 1924, ceir y rhan fwyaf o'r cynnwys fel atodiad i Wild Wales." Yn ddiweddarach, canfu'r golygydd fod rhan o'r ysgrif a grybwyll. wyd fry yn ffurfio'r arweiniad i'r gwaith hwn, a thybia etf fod Borrow wrth ysgritfennu Wild Wales yn codi darnau helaeth ohono. Gwelir felly ddarfod ysgrifennu'r llyfr cyn i feirniadaeth drefnus a hyffordd ddechrau ymdrin â deunydd Cymraeg. Cais yw'r llyfr i toi crynodeb o hanes y Cymry a'u llenyddiaeth. Rhaid cyfaddef bod y gwaith, os yr un, yn fwy synhwyrol na'r pethau sgrifennwyd ar y pwnc yng Nghymru 'hyd hynny, omd erbyn hyn, fel y dywed y golygydd, gwyddis nad yw'r .pethau a ddywedir ynddo am hanes cynnar y Cymry yn ddim ond gwe frau o dybiau diwerth —dvwediad digon cymedrol. Mewn gwirionedd, nid yw llawer o'r gweddill o'r gwaith nemor .gwell, o'r safbwynt hanesyddol a beirn- iadol, canys nid hanesydd di-blaid na beirniad manwl mo Borrow, ond dramâwr a nofelydd. Yr unig reswm dros gyhoeddi ½rhan helaeth o'r deunydd bellach fyddai ei tfod yn cynnwys digon o ragoriaeth len- yddol i'w wneuthur yn ddiddorol hyd yn oed er gwaethaf ei anghy- wirdeb.