Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yn anffodus, prin yw rhagoriaeth lenyddol y gwaith, o'i gymharu Á Wild Wales," Laveagro neu Romany Rye." I'r sawl a ddarllenodd y llyfrau rhyfeddol hynny, yn enwedig yn nyddiau byw- iogrwydd dychymyg ieuenctid, siomedigaeth fydd y rhan fwyaf o lawer o gynnwys y llyfr hwn,, ac nid cymaint o syndod os methwyd â ohael iddo gyhoeddwr ar y pryd. Ymesgusa'r golygydd dros beidio â cheisio dangos yn fanwl ym mha bethau y mae golygiadau Borrow yn rhai ina ellir bellach mo'u derbyn ar dir ibeirniadaeth. Ni buasai tudalen neu ddau o ymdriniaeth feirniadol gryno, gyda chyfeiriadau at awdurdodau diweddar, yn chwanegu nemor at faint na dim at bris y llyfr, ond buasai'n ohwanegiad tra gwerthfawr tuag at gyf- arwyddo darllenwyr na ellir disgwyl iddynt wybod dim am lafur ysgolheigion Cymreig ac eraill yn ystod y deng mlynedd a thrigain a aeth heibio er pan oedd Borrow wrthi'n casglu ei ddeunydd. Wrth gwrs, ceir yma ac acw yn y gwaith ddarnau lle y daw'r dramawr a'r nofelydd i'r golwg, megis ei syniadau am Ddafydd ap Gwilym, Gruffudd ap Niclas, Syr Rhys ap Thomas, Harri VII., Harri VIII., Goronwy Owain a Thwm o'r Nant. Er gwrthuned ym mhob ystyr yw cais Borrow i wneuthur sant o'r budrogyn gau Harri VIII., neu ei honiadau tanbaid na bu erioed gymaint ag un samt o Bab, eto fe ellir eu darllen a'u mwynhau, yn union yn wir am eu bod mor ddigrifol o dditfrif, neu mor ddifriiol o ddigrif anodd dywed- yd pa un. Un peth nodedig yw bod Borrow yn y llyfr hwn, o'i tgym- haru â rhannau o "Wild Wales," yn synio ibeth yn fwy ffafriol am y Diwygwyr Ymneilltuol. Cydnebydd y lles a wnaeth Methodist- iaeth i'r Eglwys Sefydledig yn Lloegr a Chymru—yn wir, eddyf hyd yn oed beth o ddoethineb yr Eglwys Gatholig, a beirniada Eglwys Loegr. Nid annheg ychwaith mo'i feirniadaeth ar rai o ystumiau mwyaf annaturiol yr Ymneilltuwyr ihwythau. Eglura'r golygydd na cheisiodd gywiro anghysonderau Borrow yn sillafiad enwau Cymraeg. Cymerwn felly mai Borrow ei hun sydd gyfrifol am ffurfiau fel Lydain ( = Tydain), "Gwbon" ( = Gwron), td. 34; "Englyn Meilwr" ( = Milwr), amryw droeon; "local song ( = Cerdd Dafod, ? vocal), td. 36; a merched anladd (=anllad), bedair gwaith o leiaf. Dengys y pethau hyn, megis amryw o'i gyfieithiadau a'r ystyr a rydd i rai termau (" proest," er engh- raifft), nad oedd gwybodaeth Borrow o'r Gymraeg lawn mor fanwl ag y tybiai ef ei hun ei bod. Eto, fel y dywed y golygydd, rhaid cydnabod fod y llyfr, ag ystyried ei 'gyfnod a chofio mai estron oedd ei awdur, yn llyfr nodedig. Mewn ail argraffiad buddiol fyddai chwianegu nodiad beirniadol cryno ar ffynonellau Borrow, a'r ofer ddychmygion a dderbyniodd ohonynt am ihanes a llenyddiaeth gynnar y Cymry. Aberystwyth. T. GWYNN JONES. ORGRAFF YR IAITH GYMRAEG. Adroddiad Pwyllgor Llên Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru. Caerdydd. Gwasg Prifysgol Cymru. 1928. 110 td. 3s. Teg pob dianaf." Dyma lyfr wrth ein bodd, heb ry nac eisiau. I'r sawl sy'n ymddori yn y Gymraeg a'i llên y mae ei ddarllen fel pe darllenech nofel — y mae mor ddifyr â hynny. Yn y Rhagymadrodd fe ddywedir bod dwy gainc i broblem yr Orgraff (1) penderfynu pa seiniau sydd i'w cyfrif yn safonol; (2) dethol yr arwyddion gorau i'w cyfleu. Ac yn y llyfr tfe gyflwynir inni'r seiniau safonol a detholir yr arwyddion gorau i'w dangos.