Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Diolchwn i'r Pwyllgor am arlwyo inni'r fath wledd. Pa bryd y daw cyfrol addawedig Cadeirydd y Pwyllgor ar Gystrawen allan o'r wasg? Gyda honno byddai'r armerth yn ddiamdlawd. Hebddi ni bydd. Yr ydym yn deall mai pris y llyfr yw tri swllt, ac o ran ei ddiwyg allanol yn ogystal â'i gynnwys mewnol y mae'n bopeth a ellid ei ddymuno. Valley. R. HUGHES. LLAWLYFR URDD Y BOBL IEUANC. Caernarfyr. Llyfrfa'r Methodistiaid Calfinaidd. Pris 2C. LLAWLYFR I GYMUNWYR IEUAINC. Caernarfon: Llyfrfa'r Methodistiaid Calfinaidd. Pris mewn lliain 1/6. Mewn amlen, 1/ 55 td. Mae golwg y ddau lytfryn yma fel y gwelir oddi wrth eu teitlau ar ieuenctid ein helgwysi. Gellir dywedyd ar unwaith fod y naill a'r llall yn ymdrech deg a chanmoladwy i'w cynorthwyo, a dylai ein heglwysi fod ar eu hennill a'u ibywyd fod yn gyfoethocach o iawn ddefnyddio'r ddawn. Mae'r Cyfundeb, yn Urdd y Bobl Ieuanc yn ceisio cyflawni gorch- wylanodd. Nid anodd fyddai sefydlu Urdd drwy awdurdod a phen- arglwyddiaeth Sasiwn a Henaduriaeth a chyhoeddi uwch ben pob eglwys yn y Cyfundeb-Bydded Urdd. Nid gwaith anodd, chwaith na gwrthnaws i'w harweinwyr a fyddai tynnu allan gyfansoddiad i'r Urdd a thynnu allan ei rheolau. Gellid gwneuthur hyn yn rhwydd a'i wneuthur yn dda iawn. A byddai'r cam nesaf yn un hawdd iawn — igorchymyn gweinidog a swyddogion pob eglwys yn enw eu teyrngarwch i'r Cyfundeb i osod yr Urdd ar ysgwyddau, boddlon neu anfoddlon, ieuenctid pob eglwys. Yna byddai rhyw swyddog diwyd yn cael y cysur o gadw ystad- egau'r Urdd ac yn rhinwedd ei swydd yn rhoddi bloedd neu waedd unwaith bob blwyddyn oherwydd cynnydd neu leihad ei changhen- nau a'u haelodau. Gellid gwneuthur hyn yn bur rwydd a threfnu heb fod i'r cyfan unrhyw ffrwyth ond colofn newydd yn ein hystad- egau. Amcenir at rywbeth mwy anodd ond mwy gwirioneddol na hyn. Ni wisgir neb ag awdurdod i osod Urdd ar neb arall. Mae'r syl- faenwyr, pe sylfaenwyr hefyd, wedi bod yn fodlon i ibeidio gwn- euthür dim ond apelio at ein hieuenctid i sefydlu Urdd eu hunain, a cheisio'u deffro i'r angen amdani ac i'r alwad iddi sydd yng nghrefydd Crist ac yn amgylchiadau yr oes. Ni cheisiant ddim igan weinidog na swyddog ond eu cymhorth i ddwyn yr apêl adref i galon yr ifanc, eu cefnogaeth i bob ymdrech o eiddo'r ifanc i sefydlu Urdd a'u parodrwydd i gynorthwyo ac i gydweithio pan ffurfir un. Yn hollol gyson ag anianawd y mudiad ni osodir i lawr reolau ynghylch ffurf na threfn ei chyfarfodydd. Ni wneir mwy na dangos y ffurfiau amrywiol y igall yr Urdd eu cymryd yn ol galluoedd a thu- eddiadau ei haelodau, amgylchiadau yr ardal ac anghenion a threfn- adau'r eglwys. Gosodir yn y llyfryn hwn o flaen ieuenctid ein heglwysi ddrws agored. Ni ofynnir dim ganddynt ond yr hyn sydd eisoes yn broffes ganddynt, ac iddynt, er mwyn y gonestrwydd y rhoddant fawr bris arno, ymdrechu i droi eu proffes yn fywyd ac yn ffaith. Rhoddir ynddo fraslun o'r ffyrdd amrywiol sydd yn arwain tua'r drws ac awgrymir fod llawer ffordd arall, lawn cystal â'r rhain, y gellir ei