Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. NODIADAU CYFFREDINOL. UN o nodweddion yr oes bresennol yw'r duedd i gyn- nal cynhadleddau. Nodwedd cyfnod o draws- symudiad yw; ac y mae traws-symudiadau mawr yn codi o wrthdrawiad rhwng dulliau gwahanol o feddwl ac o fyw. Y mae popeth yn symud heddiw. Ni fu byd cref- ydd, beth bynnag, mewn cymaint berw er y canrifoedd cyntaf, pan yr oedd Cristionogaeth mewn gwrthdrawiad ag Iddewiaeth, Paganiaeth, ac Athroniaeth Groeg. Ac yn y blynyddoedd hynny y cynhaliwyd y Cynghorau Eg- lwysig Ecumenaidd, i'r rhai yr aeth esgobion pob adran o'r eglwys Gristionogol i gydymgynghori ynghylch y Ffydd ac i geisio diffinio eu syniadau amdani. Bydd poethder y frwydr drosodd, fel rheol, cyn y dech- reuir cydymgynghori bydd y pleidiau gwrthgyferbyniol wedi colli,—ac wedi ennill. Collodd Idde'wiaeth, Pagan- iaeth, ac Athroniaeth, y frwydr yn erbyn Cristionogaeth, ond ennillasant oll eu lle hefyd yn yr eglwys; oblegid der- byniwyd Iddewon, Paganiaid, ac Athronwyr iddi, a rhodd- asant hwythau eu delw ar ei hathrawiaeth, ei hordinhadau, a'i threfniadaeth, fel mae'n hysbys i bawb a astudiodd ei hanes hi. Ffrwyth cynhadledd fel rheol yw cyfaddawd­ moddion i gyd-fyw a chydweithredu yn effeithiol yn wyneb galwadau amrywiol bywyd a byd. Rhoddodd y Cynghor- au heddwch cymharol i'r eglwys hyd gyfnod y Dadeni a'r Diwygiad Protestannaidd. Ar ôl y berw hwn cynhaliwyd cynghorau mawr drachefn. Yr ydym eto'n wynebu dulliau newydd o feddwl ac o fyw. Yn ystod y ganrif ddiwethaf y mae'r byd wedi newid yn ei weddau masnachol, cymdeithasol, gwleidyddol a rhyngwladwriaethol, a hynny gyda chyflymder mawr. Newidiodd hefyd ein syniadau am hanes dyn ac hanes ein