Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR EFENGYLAU SYNOPTIG YNG NGOLEUNI'R WYBODAETH DDIWEDDARAF. Pe gofynnid ddeng mlynedd yn ôl beth oedd cynnyrch mwyaf terfynol a phendant beirniadaeth ddiweddar ar y Testament Newydd, buasai'r mwyafrif mawr o'r dysged- igion yn ateb fel hyn, Penderfynu'r cysylltiad y sy rhwng yr Efengylau Synoptig." A phe gofynnid ymhell- ach ar ba linellau y penderfynwyd y mater dyrys hwn, rhywbeth fel y canlynol a fyddai'r atebiad: (i) Yn gyntaf, ysgrifau ac nid Efengyl ar dafod lef- erydd sydd wrth wraidd yr Efengylau hyn ac y sydd hefyd yn esbonio'r cyffelybrwydd rhyngddynt. (2) Yn ail, Efengyl St. Marc ydyw'r hynaf ohonynt. (3) Yn drydydd, gwnaeth St. Mathew a St. Luc ddef- nydd helaeth o St. Marc fel fframwaith i'w cyfansoddiadau hwy, a chorfforasant bron y cwbl ohoni yn eu Hefengylau hwythau. (4) Ac yn olaf, y gwnaeth y ddau Efengylydd uchod ddefnydd o ysgrif arall, a elwir Q,yr hon a gynhwys- ai'n fwyaf arbennig ddywediadau a dysgeidiaeth yr Iesu, er nad oes gennym wybodaeth ddigon cyflawn amdani i benderfynu'n fanwl beth oedd ei chynnwys na'i therfynau. I. Dyna, mewn byr eiriau, oedd y sefyllfa yn y flwyddyn 1924. Ond daeth tro ar fyd yn y flwyddyn honno, pan ym- ddangosodd llyfr y Canon B. H. Streeter, Thc Four Gos- pels, y cyfraniad mwyaf sylweddol a mwyaf pwysig at feirniadaeth ar saerniaeth yr Efengylau Synoptig a gy- hoeddwyd yn ystod y ganrif bresennol. Fe sylwir ein bod ychydig flynyddoedd yn ôl yn damcanu bod yr Efengylau hyn yn seiliedig yn bennaf ar ddwy ysgrif, sef St. Marc a Q, ac oherwydd hyn rhoddid i'r esboniad a geir uchod ar y cysylltiad sy rhwng y tair Efengyl, yr enw Damcan- iaeth y Ddwy Ysgrif (The Two Document Hypothesis); a'r hyn a wneir gan mwyaf gan Streeter ydyw gosod