Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BARDDONIAETH ESEIA. Nid ydym yn bwriadu ymdrin â chenadwri neu ddysgeid- iaeth y proffwyd. Cyfyngir yr ymdrafodaeth i agweddau llenyddol ei broffwydoliaethau. Ein testun yw Eseia fel Bardd." Traddododd y proffwydi eu cenadwri mewn barddoniaeth. Ceir darnau o ryddiaith yn llyfrau'r proff- wydi, ond ychwanegiadau gan olygyddion llenyddiaeth broffwydol yw'r darnau hyn. Pennill neu gân neu emyn oedd y cyfrwng llenyddol a ddefnyddiodd y proffwyd i fynegi ei feddwl. Cyfeiliornir yn ddifrifol wrth esbonio llyfrau'r proffwydi, os anwybyddir y ffaith ein bod yn ym- drin â barddoniaeth ac nid â rhyddiaith. Nid areithwyr na thraethodwyr na diwinyddion cyfundrefnol oedd y proffwydi ond beirdd. Cymer prif feirdd yr Hen Desta- ment eu lle yn naturiol yn nosbarth blaenaf beirdd pob cenedl, hen a diweddar. Nid llyfr Eseia yn ei gyfanrwydd fydd o dan sylw yn yr erthygl hon, ond y darnau hynny ó'r llyfr a briodolir gan ysgolheigion diweddar i'r proffwyd o'r enw Eseia a oedd yn ffigur amlwg ym mywyd crefyddol a gwleidyddol Iwda yn ystod deugain mlynedd olaf yr wythfed ganrif (738-700 C.C.). Dichon fod beirniaid diweddar wedi cynnig llawer damcaniaeth na ellir bod yn hollol sicr am ei chywirdeb. Gelwir arnom i gadw meddwl agored i dderbyn goleuni newydd ar nifer o broblemau ynglyn â dyddiad ac awdur- iaeth amryw ddarnau o lyfrau'r proffwydi. Erys eto am- ryw ofyniadau heb eu hateb. Ond ni ellir mo'r amau mai casgliad o wahanol broffwydoliaethau gan amryw broff- wydi yw llyfr Eseia. Nid gwaith un awdur yw llyfr o'r fath. Y mae pulpud Cymru bellach yn gyfarwydd â'r enw Ail Eseia,' sef awdur dienw y darn godidocaf o'r llyfr (pen. l.­lv.). Y mae'n amlwg bod awdur y caneuon cyfoethog hyn yn byw ym Mabilon tua diwedd cyfnod y caethiwed, a'i amcan oedd cysuro ei gyd-alltudion am fod gwaredwr ar y gorwel, a'u cymell i baratoi i ddychwelyd i'r hen wlad.