Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr oedd proffwydi'r wythfed a'r seithfed ganrif yn unfarn am grefydd Israel a Iwda. Dysgeidiaeth y proff- wyd am hanfod crefydd yw'r chwyldroad mwyaf yn hanes crefyddol dynoliaeth. Nid oedd y proffwyd yn yr un gwersyll â'r offeiriad. Cynrychiolent ddau syniad ang- hydwedd am grefydd:— Beth i mí yw ámlder eich ébyrth? E'br Iehófa, Wyf flín ar offrymau hýrddod A bráster tewion. Gwáed bústych ac ŵ'yn, Ni hóffais mo hýn. Pan ddéloch i wéled fy ngẃydd, Pwy geísiodd hýn ar eich lláw ? Na séngwch drachéfn fy nghyntéddau A dwyn eich anrhégion. O'fer yw tárth eich abérthau A ffíaidd i mí. Néwydd-loer, Sáboth, Gálw'r gymánfa, Y'mpryd a dýgwyl, Ni állaf mo'u góddef Am hýn pan estýnnoch eich dwylo, Cúddiaf fy llýgaid o'ch gŵ'ydd, Pan wnéloch weddíau amleiriog, Eich gwrándaw ni wnaf. Búdr gan wáed yw'ch dwylo, Ymólchwch yn lâ'n; Bwriwch ddrygióni'ch gweithrédoedd Y'maith o'm gẁ'ydd. Rhowch héibio ddrygióni, Dýsgwch ddaióni, Ymróddwch i fárn, Cósbwch orméswr, Bérnwch amddífad, Dadleúwch dros wéddw. i. II—I7. Nid oes sicrwydd am y darlleniad ymhob llinell o'r darn uchod, ond daw meddwl y proffwyd yn olau eglur. AberHonddu. T. Lewis.