Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

grynhoi'r darnau a'u gosod ynghyd fel o'r blaen y mae cysgod y patrwm neu'r ffurf gysefin yn aros yn arbenig- rwydd y darnau unigol. Yr oedd patrwm-ysgerbwd­-yn rhinweddol felly holl esgyrn sychion y dyffryn gynt pan barodd Eseciel iddynt ddyfod ynghyd, asgwrn at ei asgwrn. Chwalu, yn hytrach na chwilfriwio, ydyw peth fel hyn: wedi eu chwalu'n ddarnau yr oedd yr ysger- bydau. Ond pan dorrer yn ddarnau rywbeth na ellir byth ei gyfannu drachefn na'i wneuthur fel cynt, yna fe brofir cyffro gwahanol, ias fer o anobeithioldeb, wrth syllu ar y trychineb, ond yn gymysg â honno ymdeimlad o anghyf- rifoldeb, sydd bob amser yn bleserus, am fod dyn yn rhydd pan ddêl ffit felly drosto. Pwy na fu'n lluchio cerrig at botiau jam (pridd a gwydr) ac at ffenestri tv gwag i fodd- io'r ysfa bechadurus hon ? Y mae bregusrwydd y gwrth- rychau hyn yn apêl daer, a swyn posibilrwydd gwneuthur un peth yn llawer ag un glec, yn demtasiwn gref. Chwil- friwio, nid chwalu, yw hyn. Wedi'r malu, nid oes gysgod y patrwm gynt ar ôl. Y mae rhyw ddibendod pendant ynglyn â'r weithred, hyd yn oed pan fo'.n bosibl a hawdd torri'r darnau'n fanach; ond nid oes ryw hwyl fawr yn hynny, oherwydd nid oes fawr o bleser mewn dryllio darn o bot jam. Gyda llaw, cof gennyf fod yn nôl paen o wydr ffenestr go fawr ryw dro, ac wrth geisio bod yn ofalus arbennig rhag ei dorri wrth ei gario, yn teimlo awydd cryf i fentro ymgellwair yn ddiofal ag ef, ac wedyn wanc anorchfygol bron yn f'annos i ollwng y gwydr a'i dorri, fel petawn yng ngafael rhyw reidrwydd gorthrechol. Yr oedd straen y gorofal wedi mynd yn drech na mi, a rhyw sbring ynof fel petai wedi colli ei afael ac yn ymgywasgu i eithaf ei ddirwasgiad, wedi bod ar ddirdyn yn rhy hir, a'r gorofal ystyriol wedi troi, yn ddisymwth hollol, yn ddiofalwch anystyriol. Fe wyr pawb am y profiad hwn, effaith gor- ymdrech a gorofal. Dyna paham y mae ambell yrrwr cerbyd yn mynd i'r polyn a'r ffos mor aml, a'r dyn meddw, ond odid, yn cerdded mor simsan a diamcan, a'r gwr hir ei annel mor fynych yn methu'r targed. Onid oes grym disgrifiadol yn yr ymadroddion a ddef- nyddir am ddarnio fel hyn? "Candryll," "cyrbibion