Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DELFRYDIAETH A REALISTIAETH DDIWEDDAR. Gellir edrych ar Ddelfrydiaeth neu Idealistiaeth a Real- istiaeth fel dau fudiad cyferbyniol yn hanes Athroniaeth. Ar yr un pryd, y mae'n bwysig cofio bod y ddau fudiad hwn wedi cymryd amrywiol ffurfiau, ffurfiau a ymestyn o Fewnoliaeth bur yn y naill eithafbwynt, i Fateroliaeth noeth yn yr eithafbwynt gwrthwynebol. Ar y naill law, gwedd ar Ddelfrydiaeth yw'r ddamcaniaeth mai cwrsweith- rediadau meddyliol ydyw pob ffurf ar fodolaeth. Ar y llaw arall, gwedd ar Realistiaeth athronyddol ydyw Mater- oliaeth yn y ffurf fwyaf eithafol ar y ddamcaniaeth honno. Fodd bynnag, erbyn heddiw nid yw'n debygol bod y naill na'r llall o'r athrawiaethau eithafol hyn yn gymeradwy i na Delfrydiaeth na Realistiaeth. Yn wir, nid oes eisiau inni betruso dweud bod yr eithafion uchod yn annerbyniol yng ngoleuni meddwl yr oes bresennol. Y wers werthfawr a ddysgwyd bellach ydyw na eill na Delfrydiaeth na'r mudiad gwrthgyferbyniol fforddio anwybyddu egwyddorion a gosodiadau ei gilydd. Dengys hanes yn eglur bod mesur o wirionedd angenrheidiol yn llechu yng nghyfundrefnau y naill fudiad a'r llall, oher- wydd pa bryd bynnag y ceisiai Realistiaeth fynd rhag ei blaen gan ddiystyru yn hollol y safbwynt delfrydol, ni chai meddylwyr delfrydol yr anhawster lleiaf i ddistriwio ei hadeilad. Cyhuddent hi o anwybodaeth o Feddyleg. Bywydeg, a hyd yn oed o Anianeg; ac ar yr ochr arall, pa bryd bynnag y penderfynai Delfrydiaeth gario rhai o'i hegwyddorion hithau i'w canlyniadau rhesymegol, gan wrthod rhoddi ystyriaeth i ffeithiau caled bywyd, nid yn unig gwrthodai'r athroniaeth wrthwynebol ei chasgliadau disylwedd, eithr hefyd fe bwyntiai synnwyr cyffredin at y cyfryw fel ffolineb. Yn ystod y blynyddoedd diweddaf hyn, yn arbennig, y mae'r ddwy olygwedd fawr athronyddol yma o Ddelfryd-