Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DYFODOL CRISTIONOGAETH YN YR INDIA. Y mae dyfodol yr India yn un o'r cwestiynau mwyaf dyrys a phwysig sydd yn wynebu pawb a gâr Deyrnas yr Ar- glwydd Iesu Grist. Po lwyraf y daw dyn i adnabod yr India,-a golyga hyn sylweddoli natur ei hysbryd, gwybod rhywbeth am ryfeddod ei hanes a'i dylanwad arhosol ar feddwl a bywyd y byd, teimlo grym nerthoedd meddyl- iol ac ysbrydol a fu mor amlwg yn y canrifoedd gynt ac sydd yn dechrau blodeuo unwaith eto yn ein dyddiau ni, a gweled yn ei chewri yr awyddfryd ysbrydol sydd yn nod- weddiadol o'r genedl yn gyfan gwbl-mwyaf i gyd y teimlir y bydd deffroad cenedl fel hon yn sicr o ddylan- wadu er da neu er drwg ar y byd yn gyfan. I. Y mae'r India yn deffro. Ond nid deffro fel baban, yn dawel ac yn naturiol, eithr yn anesmwyth ac yn anniddig fel cawr o'i drwmgwsg. Anhawdd iawn ydyw ysgrifennu am yr India heddiw fel ag i gyfleu syniad cywir o'r hyn,a ddigwydd yn y wlad. Y mae symudiadau newydd o bob math yn cychwyn, a'r rheini'n gweithio yn groes i'w gilydd. Ar un llaw gwelir tueddiadau sydd yn rhoi lle mawr i gredu fod dyfodol yr India yn ddisglair iawn. Ar y llaw arall gwelir tueddiadau eraill a'n harwain weithiau i ofni mai araf iawn fydd cerddediad yr India i gyfeiriad y goleuni. Ond, beth bynnag am ganlyniadau'r deffroad hwn, deffro y mae'r wlad; ac er mai bychan ydyw'r dosbarth dysgedig sydd yn arwain gyda phob symudiad, y mae'r ysbryd newydd yn dylanwadu fwy fwy ar fywyd y miliyn- au annysgedig. Un o orchestion Gandhi ar ôl ei ddych- weliad i'r India ydoedd deffro pentrefwyr anllythrennog y wlad o'u cwsg, a'u harwaín i gymryd rhan flaenllaw yn symudiadau moesol a pholiticaidd yr oes. Cyn hynny ychydig iawn o gydymdeimlad oedd rhwng y brodor dysg- edig â'r werin. Y Swyddog Prydeinig a ystyrid yn gyf-