Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ARFAU RHYFjEL HEDDIW. Y mae rhyw anniddigrwydd annymunol o hyd yng Nghyf- andir Ewrop ar bwnc rhyfel ac arfau rhyfel, a chynyddu yn hytrach na lleihau a wna hwnnw pan yw'r naill obaith ar ôl y llall yn diflannu dros y gorwel. Aeth deng mlynedd heibio bellach er pan arwyddwyd Cytundeb Heddwch yn Versailles i roi terfyn ar y Rhyfel Mawr, ac y mae'n deg gofyn wedi ysbaid mor hir, a ydyw Ewrop lawer nes yn awr na chynt at sylweddoli'r gobeith- ion a'i hysgogai. Cyn arwyddo'r Cytundeb, datganodd yr Almaen fodlonrwydd i'r syniad o gyfyngu ar ei byddin a'i harfau a rhoi ei llynges i fyny i'r gorchfygwyr ar yr amod y byddai hynny'n gychwyn ar gyfyngu cyffredinol ar arfogaeth. Mynegodd y Cynghreiriaid hwythau'n glir, nad oedd cyfyngu ar arfau'r Almaen amgen y cam cyntaf ar y ffordd i leihad cyffredinol ar arfogaeth yn Ewrop, ac mai un o dasgau cyntaf Cynghrair y Cenhedloedd fyddai llunio cynlluniau pendant er sylweddoli'r amcan hwnnw. Y mae Erthygl VIII. o Gyfamod y Cynghrair yn ddatganiad eglur i'r un cyfeiriad. Onid priodol gofyn, wedi deng mlynedd, a fu'r cenhedloedd yn ffyddlon i'r llwon a dyngodd y naill i'r llall yr adeg honno ? Wedi ymchwil faith a manwl cyhoeddodd y Cynghreir- iaid i'r Almaen gyflawni'n anrhydeddus yr holl ofyn oedd arni yn y peth hwn; nid oes ganddi lynges na ffôrs yn yr awyr gogyfer â rhyfela, ac ni rifa ei byddin ond 100,000, a honno heb na thanciau na gynnau mawr iddi. Eithr beth am y Cynghreiriaid eu hun? Y mae methiant y naill gynnig ar ol y llall i ddyfod i ddealltwriaeth ar bwnc lleihau arfau, y drwg-dybiaeth sy'n ffynnu am amcanion a symudiadau y naill fel y llall, y cytundebau cêl a wneir o dro i dro, a'r galluoedd an- ferth a gedwir ar dir a môr-y mae'r cwbl hyn yn peri pryder nid bychan yng nghalonnau caredigion heddwch ac ewyllys da, ac yn ein gorfodi i ofyn faint o goel sydd i'w osod ar yr holl sôn am heddwch a glywir oddi wrth