Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AWDURDOD Y BEIBL. Ein cwyn yn aml y dyddiau hyn yw nad yw dynion yn gyffredin yn barod i gydnabod unrhyw awdurdod ar wahân i'w dymuniadau a'u syniadau hwy eu hunain. Golyga hyn mai'r dyn unigol yw mesur pob peth, ac nad oes der- byniad i'w roddi i awdurdod allanol o fath yn y byd ond mor bell ag y bydd ef (er efallai nad oes ganddo gymhwys- ter o gwbl yn rhinwedd disgyblaeth feddyliol neu foesol i ffurfio barn briodol) yn fodlon ei gymeradwyo. Diau fod sail i'r gwyn hon, ac nid yw hyn yn arwydd obeithiol. Ond arwydd yw nid yn unig fod pobl ein dyddiau ni yn rhy hoff o annibyniaeth fympwyol, ac yn amharod i ym- ostwng i ddisgyblaeth feddyliol. Dengys hefyd mai gau yw llawer ffurf ar awdurdod sydd hyd yn hyn wedi parhau i hawlio gwrogaeth meddwl dyn. Yn anesmwythdra neu ddifaterwch neu derfysg meddyliol yr oes hon, yr ydym yn canfod nid yn unig ddiffyg parodrwydd i dderbyn y gwir- ionedd; i fesur lawn gymaint, gwrthdystiad yw yn erbyn gau awdurdod. Yr alwad a ddaw atom yw ar inni gyf- lwyno'r gwirionedd, a dangos gogoniant yr awdurdod a berthyn yn hanfodol i'r gwirionedd. Ac os oes gennym ffydd yn y natur ddynol o gwbl, gallwn fod yn hyderus y dygir dynion yn y pen draw i gydnabod ac i ufuddhau i'r awdurdod hwnnw nad yw ddim arall na mynegiad o natur gwirionedd. Ond o ba Ie y daw y gwirionedd, a pha Ie y mae mangre awdurdod? Fod awdurdod yn anghenraid yn holl diriogaethau bywyd dyn gwleidyddiaeth, cym- deithas, moesoldeb, crefydd-nid oes lle o gwbl i amau. Ac un o'n dyrys-bynciau ym mhob oes yw canfod beth yw eisteddle awdurdod. Ond nid hwn yw y cwestiwn an- hawsaf. I'r rhai a gredant yn Nuw, ynddo Ef y mae car- tref awdurdod. Ni byddai i ti ddim awdurdod arnaf fi,' THE AUTHORITY OF THE BIBLE. By C. H. Dodd. M.A., Yates Professor of New Testament Exegesis in Mansfield College, Oxford. (Nisbet and Co. 10/6 net).