Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gadewir lluaws o'r cwestiynau heb eu hateb gan ymdriniaeth Mr. Dodd. Ond nid yw ei lyfr yn llai add- ysgiadol oblegid hynny. Dengys inni beth a ddylai fod dull ein dynesiad at y Beibl; a gallwn gymeradwyo'r llyfr yn galonnog fel arweinydd tra gwerthfawr i ddirnadaeth deilwng o awdurdod yr Ysgrythurau Sanctaidd. Aberystwyth. RICHARD HUGHES. ADOLYGIADAU. REASONABLE BIBLICAL CRITICISM. By Willis T. Beecher, D.D. London: The Religious Tract Society. xvii.335 pp. 7/6 oiet. Ar wyneb-ddalen y gyfrol hon dywedir y bu'r awdur yn Athro Heb- raeg yng Ngholeg Auburn,, yn yr Unol Daleithiau, o'r flwyddyn 1871 hyd 1908. Yn rhestr yr awduron a sgrifennodd i'r International Standard Bible Encycloŷaedia, cytfeirir ato fel un a fuasai íarw yn 1915. Buddiol ydyw cofio hyn wrth farnu gwerth y llyfr hwn heddiw. Y mae'n amlwg mai ceisio cael pobl ei oes ei hun i symud peth ymlaen a wnâi'r awdur. Cydnabyddai'n rhydd fod yr ysgolheigion diwedd- ar yn gywir ar lawer pwnc; yn gywir, er enghraifft, yn eu cred y perthyn Uyfr Josua i'r Pumllyfr, ac y bu amryw wrthi hi'n gweithio ar y Chwellyfr. Ond ni fynnai symud llawer oddi wrth syniadau cyfnod ei ieuenctid am awduriaeth llyfrau'r Hen Destament. Rhennir cynnwys y gyfrol yn 22 pennod, a'r rheini drachefn yn bedair rhan. Yr ail ran, ar rai o hanesion yr Hen Destament yng ngolau Beirniadaeth Resymol, yw'r adran fwyaf boddhaol; a phetas- ai'r awdur bob amser mor rhydd oddi wrth hen hualau ag ydyw wrth drin yr hanes am yr Israeliaid yn grwydriaid, neu fel yr esbonia ef, yn fugeiliaid," yn yr anialwch (pen. xii.), gwnaethai les mlawr i ddarllenwyr y Beibl. Rhy enbyd o geidwadol ydyw'r gwaith drwyddo diraw, er bod ynddo aml feirniadaeth ddigon teg. Prin y cytuna neb o bwys â'r syniad y gellir nodi'r flwyddyn y digwyddodd hyn ac arall ynddi o adeg Abraham ymlaen (gwel td. 181); ac yn siwr ni ellir credu fod yr Hen Destament yn gyflawn yn amser Nehe- meia, tua'r flwyddyn 405 C.C. (td. 252). Nid rhyfedd yr ymosodir yma ar lyfrau Driver, nac ychwaith y canmolir cymaint ar R. D. Wilson, Princeton. Gallesid disgwyl rhywbeth ar y Testament Newydd, ag ystyried teitl y llyfr, ond cyfyngir ei sylw i'r Hen Destament. Gresyn i Gym- deithas y Traethodau Llenyddol ymdrafferthu i gyhoeddi cyfrol na ellir gobeithio iddi arwain meddwl neb a ddarllenodd ychydig o gyn- nyrch ysgolheigion rhesymol diweddar. Atgofir ni am air a ddy- wedodd un bachgen .bach o Ddeheudir Cymru wrth ei fam-gu yn y Gogledd pan fynnai hi iddo fynd i ryw gyfarfod a ystyriai ef yn rhy hynafol, ac yntau'n gwrthod Gall neud rhyw les i chi; ni wnâ