Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

fe ddim lles i fi. Y mae'n amheus a fyddai'r tfam-gu yn fodlon iawn ar y llyfr hwn gellir bod yn hollol siwr na phlesid yr un wyr bach byw ei feddwl ganddo. PELOUBET'S BIBLE DICTIONARY. London The Religious Tract Society. 800 pp., Maps. 10/6 net. Ychydig dros chwarter canrif yn ôl, bu'r Golygydd yn arolygu'r gwaith o ddiwygio Geiriadur bychan un .gyfrol yr ysgolhaig mawr hwnnw, y Dr. William Smith," meddir yn y Rhagair i'r gyfrol hon. Ymgais i ail-ddi.wygio'r gwaith hwnnw a welir yma drachefn, a honnir bod yn y Geiriadur newydd ffrwyth yr ysgolheictod diwedd- araf. Gan na roddir blwyddyn ei gyfansoddi nac ar y wyneb-ddalen nac ar ddiwedd y Rhagair, nid hawdd ydyw barnu pa beth a olygir wrth diweddaratf er bod y dyddiadau 1915 a 1925 wedi eu cys- yUtu â hawlfraint y cyhoeddwyr gwreiddiol. Ymae'n rhaid dweud nad yw'r ysgolheigion ydyfynnir o'u gwaith yn rhai ieuanc iawn. Bu Godet, Lange, Perowne a Delitzsch farw amser go dda'n ôl; nid fel Prof. George Adam Smith yr adwaenir heddiw y Prifathroo Aberdeen; ac ni feddylir cymaint o lyfrau'r Dr. Campbell Morgan ag a wneir ohono ef ei hun fel pregethwr. Rhoddir bri yma ar gyfundrefn Ussher o gyfrif amseryddiaeth y Beibl; er yr ymddengys mai'r awdurdod terfynol ar hyn ydyw'r Dr. Wilfrid J. Beecher, awdur y gyfrol a adolygir uchod. Gellir barnu 'golygiadau'r awdur a'i gynorthwywr oddi wrth ddy- wediadau fel hyn bu Abraham fyw 1996­1822 C.C., ganed Aaron yn y flwyddyn 1573 C.C., a Moses yn 1571 C.C. Nid oes ddadl na ellir ei hateb yn erbyn y syniad traddodiadol am gyfansoddi llyfr Genesis yn fore." "Y mae'n debygol i Ddafydd ysgrifennu nifer gweddol fawr o'r Salmau." Cred llawer o'r ysgolheigion diweddar ddarfod sgrifennu llyfr Job rywdro rhwng amser Solomon a'r Gaeth- glud." Arweinir ni i gredu bod ysbrydion aflan, deil- iaid yr un drwg, ac y caniatâi Duw iddynt, yn arbennig yn amser ein Harglwydd a'i apostolion, i ddylanwadu'n uniongyrchol ar eneidiau a chyrff dynion neilltuol." Ni chyfeirir at un syniad diweddar ar amseriad y pedair Efengyl; a phleidir yn eglur y golygiad mai gwaith un gŵr ydyw llyfr Eseia i gyd. Y mae tipyn o ddylanwad ffansi dynion tfel Farrar ar a ddy- wedir am y priodoldeb o gael pedair Efengyl, ac ar yr amddiffyniad a roddir i'r gred mai tua Rhag. 25 y ganed Iesu Grist. Ond y mae'n deg dywedyd na ddyry'r awdur groeso i'r hobl a gredant mai'r Saeson (ueu'r Cymry) yw gwir ddisgynyddion y Deg Llwyth coll. Ceir hefyd yn y gyfrol lawer o wybodaeth fuddiol am gynnwys yr Ysgrythur, a brithir hi â darluniau, er nad ydynt yn rhai diweddar iawn. Y mae'n amlwg na chytuna'r awdur â'r syniadau a goleddir yn y Geiriaduron Beiblaidd eraill a gyhoeddwyd yn ystod y ganrif hon; ac i'r sawl a ddigwyddo fod o'r un farn ag yntau, bydd y gyfrol hon vn dra derbvniol. D.F.R. EXPLORATIONS AT SODOM. Gan Melvin Grove Kyìe, D.D., LL.D. Religious Tract Society. 5/ Gwr o'r America yw Dr. Melvin George Kyle a theimla'n bur falch o hynny. Aeth ar daith gyda nifer o'i gydwladwyr i fro'r Môr Marw, a phendertfynodd cyn colli golwg ar wlad ei enedigaeth y dis- gwylid llyfr ganddo fel ffrwyth taith mor bell. Ni fu'n sicr am yn