Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

hir y cai ddigon o ddefnydd i lyfr ar ei bwnc priod, a chawn lawer iawn o hanes yr holl daith, a chrynswth o sylwadau ar bopeth yn y nefoedd a'r ddaear ag y mae eu gwneud yn waith hawdd ac yn bro- fedigaeth i'r doethawr. Mae yn wr crefyddol iawn a chalonnog iawn. Cafodd lawer iawn o gysur ar hyd y daith. Cafodd groesi'r Werydd mewn llong Americanaidd heb yr un diferyn o whiskey ar ei bwrdd. Cafodd ddigon o fwyd da a blasus ymhob gwlad y bu ynddi, a chaf- odd odfa ragorol a blas ar bregethu ar lan y Môr Marw, a chydneb- ydd yr Arglwydd yn ddiolchgar am ei holl ddoniau iddo. Ffrwyth y daith a'i hamcan, gallwn dybio, oedd profi fod llyfr Genesis mewn un bennod o leiaf, yn dweud y gwir. Profi fod dinas- oedd wedi bod, a gwareiddiad, yn y wlad erchyll honno hyd oddeutu dyddiau Abraham, ac fod y dinasoedd wedi diflannu a'u gwareiddiad, ac yn wir, pob bywyd, wedi peidio yno am ganrifoedd hyd y dydd- iau y daeth Rhufain yno i osod ambell ffordd i lawr, a'r dyddiau di- weddarach pan y bu 'gwŷr y Crwsâd yn codi eu caerau yn y wlad. Mae llyfr Genesis i ddiolch am y cadarnhad hwn i adnabyddiaeth fanwl a thrwyadl y Doctor Kyle o briddlestri. Gall ef ddweud oed pob llestr pridd o grochannau'r Aifft i lawr i gwpanau te Woolworth. Drwy'r wybodaeth hon y mae, gyda difrifwch mawr, yn cyhoeddi y ca.i ddarnau o lestri o lawer oes hyd at ddyddiau Abraham yn nhomen- nydd rwbel glannau'r Môr Marw, ond nad oes ynddynt yr un darn o lestri o'r oesoedd sy'n dilyn. Felly-ibu bywyd a gwareiddiad a llestri pridd yng ngwastadedd y Môr hyd dyddiau Abraham, a pheid- iodd y cyfan yr adeg honno. Am hyn molianned Seion a gorfoledded Genesis. Cred hefyd, a gellir tybied fod pob sail i'w gred, ei fod wedi dar- ganfod un o uchel-leoedd dinasoedd y gwastadedd-o leiaf yr oedd y dynion fu yno yn defnyddio'r llestri priodol i'r cyfnod hwnnw. Yn ychwanegol at y goleuni hwn a deifl ar yr hanes-wedi ateb y cwestiwn, Pa bryd ?-mae yn myned rhagddo gyda'i sirioldeb ar- ferol i esbonio'r Pa fodd ? a thraetha gyda helaethrwydd ac awdurdod mawr ar y cwestiwn-ym mha Ie y cafodd Duw yr halen a'r brwmstan angenrheidiol i ddifa'r wlad. Parodd un gair yn yr hanes yn Genesis dipyn o benbleth, hyd yn oed i Dr. Kyle. Gwelodd Abraham fwg y tir fel mwg ffwrn. Paham ac o ba le-y mwg? Daeth golygfeydd St. Lonia, Missouri, U.D.A., i'w gynorthwyo. Cofiodd nad oes dim a gynyrcha gymaint cwmwl n fwg â chrochan o asỳhalt a ddefnyddir i wneuthur wyneb i ffordd. A chrochan o asỳhàlt oedd yr hyn a welodd Abraham yn mygu mor enbyd. Prin, mae arnaf ofn, y cryfha'r llyíryn hwn ffydd neb, ac os gwnâ, mae lle i ofni mai ffydd ryfedd a fydd Caerdydd. JOHN ROBERTS. WHAT TO PREACH. By Henry Sloan Coffin, D.D. Pp. 1­189. 7/6. Hodder and Stoughton. Bu Dr. Sloan Coffin am flynyddoedd yn un o weinidogion mwyaf llwyddiannus y Presbyteriaid yn New York, ac ar hyn o bryd ef yw Llywydd yr Union Theological Seminary. Traddodwyd cynnwys y gyfrol hon yn yr Alban ryw ddwy flynedd yn ol, a da iawn yw cael y darlithiau yn y ffurf o lyfr wedi ei gyhoeddi yn y wlad hon, er mai yr ochr arall i'r Werydd yr argraffwyd ef. Gwyr yr awdur drwy brofiad maith beth yw anawsterau ac anghenion pregethu yn yr oes hon, a cheir yn ei bum bennod drafodaeth ar gynnwys pre- gethu esboniadol, athrawiaethol, ymarferol, bugeiliol a chenhadol. Y