Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

mae'r gyfrol drwyddi yn un hynod o afaelgar, ac nid rhaid i ddyn a'i darlleno'n ystyriol fod heb syniad clir am gynnwys pregethu yn yr ystyr orau nac heb awgrymiadau dirif a'i cynorthwyai i draddodi holl gyngor Duw yn fwy effeithiol nag o'r blaen. Y mae ynddi lawer iawn ar gyfer y sawl sy'n awyddus i bregethu'n well nag a wnânt, a llawn cymaint ar gyfer y rhai hynny sydd yn y cyflwr per- yglus o dybio eu bod eisoes yn gwybod y cwbl sydd i'w wybod ynglyn â phregethu ac â chynnwys y math gorau ar bregethau. LIVES AND LEGENDS OF APOSTLES AND EVANGELISTS. By Myrtle Strode-Jackson. Pf. 1­2o3. 6/- net. R.T.S., London. Llyfr difyr yn adrodd rhai o'r traddodiadau a geir yn llên yr Eglwys Fore ac mewn mannau eraill am yr Apostolion. Ceir ynddo ddefnyddiau llu o anerchiadau i blant. Y mae swyn neilltuol yn yr hanesion am Thomas a'i daith genhadol yn yr India, a chred yr awdur fod sail i'r traddodiad, a honna fod Simon y Cananead ymhlith efengylwyr cynharaf Prydain. MEDITATIONS IN ECCLESIASTICUS. By Arthur F. Taylor, Pp. 1­238. 6/ James Clarke and Co. Cyfrol ddymunol ar y meithiaf ond un o lyfrau gwerthfawrocaf yr Apocryffa. Bu Ecclesiasticus neu Ddoethineb Jesus fab Sirach unwaith yn boblogaidd iawn ymhlith Cristionogion, ac yn nhabl llithiau newydd Eglwys Loegr tretfnir tua hanner can llith o'r llyfr hwn. Hyd ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg fe argreffid yr Apocryffa yn fynych gyda'r Hen Destament, a thrueni yw fod ein gwybodaeth ohono mor wael. Yn y gyfrol hon ceir dros drigain o fyfyrdodau awgrymog iawn ar wahanol destunau o Ecclesiasticus. O'i ddarllen câi dyn syniad rhagorol am gynnwys gwerthfawr y llyfr hwn, a byddai hynny yn help i gytfoethogi llawer ar bregethau o'r Hen Destament a'r Newydd ac i awgrymu pynciau y byddai'n fudd- iol eu trafod mewn Seiat a Chylch Myfyr. Bala. G. A. EDWARDS. HELYNT COED Y GELL. Gan G. Wynne Griffith, B.A., B.D. Tud. 152. 2/6. Swyddfa'r Goleuad, Caernarfon. Enillodd y stori hon y wobr o 130 am y nofel antur orau at wasanaeth plant ysgol yn Eisteddfod Genedlaethol Caergybi; a sicr yw y darllennir hi yn eiddgar gan blant ysgol a phlant hyn. Ychydig o ddim tebyg iddi a ysgrifennwyd yn Gymraeg nag a gyfieithwyd o ieithoedd eraill. Rhoddodd Beriah gryn fwynhad i blant yr oes o'r blaen trwy gyhoeddi yng Nghyfaill yr Aelwyd drosiadau o Monte Cristo,' gan Dumas, Michael Shôgoff Negesydd y Tsar,' a Taith o Amgylch y Ddaear mewn Pedwar Ugain Niwrnod gan Jules Vernes. Gresyn yw na ail-gyhoeddwyd y nofelau cynhyrfus hyn. Dengys Helynt Coed y Gell fod defnyddiau nofelau antur rhagorol ym mywyd a thraddodiadau Cymru. Ar lan Ynys Môn y mae Coed y Gell; gwneir defnydd da o nodweddion daearyddol yr ardal, a gweir traddodiadau'r ynys yn ddeheuig iawn i'r stori. Cyfarfyddwn â poachers, smugglers, a lladron penffordd, ac arweinir ni o antur i antur gyda diddordeb diball. Y mae'n stori fyw a difyr dros ben. D. P.