Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

THE PASSION FOR LIFE. By the Rev. John Lewis, M.A., Ph.D. 123pp. Yale University Press. 1928. Gweinidog gydag enwad yr Annibynwyr yng Nghaerdydd ydyw'r Dr. John Lewis, a chyfres o ddarlithiau a draddodwyd yn yr Amerig, ym Mhritfysgol Cornell ac mewn mannau eraill yn yr Unol Daleith- iau, yn ystod yr Hydref diwethaf a ffurfia sylwedd cynnwys y llyfr hwn. Fe goledda'r awdur ddrychfeddwl am fywyd fel gallu neu egni sydd yn harhaus yn ceisio'i fynegi ei hun fwy ifwy. Nid oes a fynno ef â dechreuad bywyd, eithr yn hytrach â bywyd fel y mae. Beth a ddichon bod natur a chymeriad ei ymddygiad a'i weithrediad? Ystyrier bywyd yn yr ystadau symlaf ohono y gwyddom amdanynt, neu ynteu yn ei ffurfiau mwy cymhleth, a cheir yn y naill fel y llall mai'r hyn a'i nodwedda yn bennaf dim yw ei awyddfryd a'i ddyhead i'w fynegu ei hun. Dyma dystiolaeth Bywydeg, Meddyleg, Hynaf- iaethau a Hanes amdano. Y mae'r gell organaidd yn datguddio'r dyhead nodweddiadol hwn. Pan ddelo hi i gyffyrddiad ag amgylchedd briodol, fe ddengys ei bod yn feddiannol ar alluoedd cyfaddasol a chytfosodiadol. Pan ryddheir yr egni sydd ynghudd ynddi trwy ddyfod ohoni i gysylltiad ag amgylchedd a eilw allan ei phosibiliadau gweithrediadol, gwelir ei bod yn alluog nid yn unig i'w chyfaddasu ei hun at yr amgylchedd trwy weithredu ar hyd un llinell arbennig; eithr os digwydd iddi fethu â mynd ymlaen ar hyd un llwybr, y mae hi'n alluog i gymryd cwrs arall. Hyn a olyga bod bywyd ar y lefel hwn yn allu cyfosod- iadol a chreadigol. Eto, yn nhiriogaeth uwch Meddyleg, fe geir bod yr un egwyddor yn gweithredu mewn modd amlycach fyth. Bywyd fel gallu creadigol sydd i'w ddargantfod yma eto. Dyma nodwedd arbennig gweithrediadau greddfol, a hefyd bywyd ar y lefel hwnnw, lle yr uwchfodir greddf gan ymwybyddiaeth o ddibenion neu ddel- frydau." Fe ddyry'r awdur gryn bwyslais ar y syniad bod bywyd,. yn rhinwedd ei ddyhead a'i chwant parhaus i'w fynegi ei hun, yn creu ei gyfryngau ei hun, ei fod yn gyfrifol am yr organism, y corff, er enghraifft, a thueddwn ninnau i farnu bod hwn yn syniad a deil- ynga ei weithio allan yn llawnach nag oedd yn vmarferol, efallai, yn y darlithiau hyn. Wrth gwrs, nid yw unrhyw ddelfrydydd yn tfod- Ion caniatáu mai cynnyrch yr ymenydd yw'r meddwl; fe ddeil ef mai Meddwl sydd yn cyfrif am Natur, mater, a chorff; ac y mae syniad y Dr. Lewis am fywyd yn swyddogaethu fel ag i greu adeiladwaith organaidd iddo'i hun yn hollol gyson â'r safbwynt idealistaidd mewn Athroniaeth. Fe ragflaena swyddogaeth bywyd y cyfryngau y dat- guddia ef ei hun drwyddynt. Yn y proses o'i fynegi ei hun, ac yn rhinwedd ei newyn a'i syched am fynegiad helaethach, fe grea bywyd gorff addas iddo'i hun. Â'r awdur ymlaen i olrhain datguddiad yr egwyddor hon yng nghwrs hanes y ddynoliaeth oddi ar adeg yr hen Oesau Cerrig, rhyw ugain mil neu fwy o flynyddoedd yn ôl, hyd at yr amseroedd diweddar hyn. Oddi wrth yr hyn a wyddom am yr oesau bore, oddi wrth arfau cerrig trigolion yr amseroedd hynny, eu dull o ddefnyddio esgyrn a chyrn, yr ysglyfaeth a gaent pan yn hela, a'r celloedd y claddent eu meirw ynddynt, gellir casglu mai nodwedd arbennig bywyd mewn perthynas â hwy ydoedd ei fod yn ymestyn ymlaen at rywbeth mwy o hyd, ac yn cyrchu at ddelfrydau. Y mae cystal â phrofion bod pobl yr hen Oesau'r Cerrig yn awyddu am anfarwoldeb, hynny yw, am fwy o fywyd, oherwydd prin y buasai yn rhaid i'r hwn oedd wedi darfod amdano am byth wrth fwyd ac arfau a thrys- orau. Ymhellach, gellir casglu oddi wrth ffigurau a darluniau o wahanol anifeiliaid a dynnwyd gan y dynion hyn yn y celloedd a