Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

fynychent, eu 'bod hwy yn coleddu'r grêd bod y duwiau yn eu cyn- orthwyo yn eu hymdrechion i gynnal a chadw bywyd wrth hela. Y mae dehongliad yr awdur o'r ffenomenon arbennig hwn yn ddiddorol. Gwêl ef ynddo arwydd a bwyntia at wawr crefydd, rhywbeth cyn- tefig iawn, y mae'n wir, eithr pwysig dros ben, dim llai na rhyw- beth y datblyga crefydd ei hun ohono (td. 37). Ar lefel crefydd, eto, yr hyn a ddigwydd ydyw dyhead am gael bywyd a'i gael ef yn helaethach. Yn gyntaf (o ran amser), ymhlith y duwiau y mae'r Fam-dduw yn deillio o'r profiad cyffredin am fam yn gofalu am ei phlant ac yn dioddef ar eu rhan. Fodd bynnag, yn unol â'r un- rhyw ddyhead am fywyd helaethach, newidiwyd y wraig yn wr yng nghwrs datblygiad. Yn lle'r Fam Fawr fe geir Duw'r Tad. Dadl yr awdur yw mai -bywyd yn ymestyn ymlaen at fynegiad mwy boddhaol ohono'i hun a benderfynodd rywogaeth a hefyd gymeriad a natur y duw neu'r duwiau. Ymwnâ pennod olaf y llyfr byw a rhagorol hwn â hawliau'r awydd- fryd sydd yn nodweddiadol o fywyd ym mhobman, ar ein hoes a'n dyddiau ein hunain. Onid gallu creadigol yw bywyd? Onid yw, fel y cyfryw, yn ein hannog ni yn barhaus i ymestyn ymlaen a chyrchu tu ag at sylweddoliad llawnach ac helaethach ohono? Os traddodiadol yn unig, felly, yw ein golygwedd ni mewn perthynas â bywyd neu ag unrhyw ,gylch ohono, diau ein bod yn troseddu ac yn pechu yn erbyn bywyd ei hun. A yw arweinwyr ym myd Crefydd yn ymdrechu cyfanfod â galwadau a gofynion bywyd? Un cwestiwn yn unig sydd wedi glynu wrthym wrth fynd trwy'r gyfrol wych hon, a dyna yw hwnnw, tybed a yw ei deitl yn fodd- haol, hynny yw, a yw yn gwneuthur cyfiawnder â'r llyfr ei hun ac â'i gynnwys cyfoethog ? The Passion for Life," ïe, ceir yma fwy na hynny. Y mae bywyd ei hun yn ei ansawdd yn feddiannol ar ddy- head a chwant, ar newyn a syched, am fynegiad helaethach. Y mae'n wir v gellir disgrifio'r dyhead hwn. fel yr amlyga'i hun ym myd Bywydeg ac vn hanes dynoliaeth, fel awyddfryd am fywyd ac am fwy ohono; ond nodwedd fawr bywyd ei hun, yr hwn sydd yn gallu creu ei gyfryngau ei hun, yw'r awyddfryd yma yn ei ansawdd. The Passion of Life," neu gwell fyth, The Passion of Life for Life a symiai i fyny gynnwys y llwfr hwn. Gallwn yn gydwybodol gymeradwyo'r gyfrol hon, gwaith un o'n cyd-wladwyr mwyaf galluog heddiw, i fyfyrwyr gwyddonol-athronyddol Cymru. Y mae'r awdur ei hun yn feddiannol ar ddull hapus, rhwydd a chlir, o osod allan ei syniadau; ac y mae'n amlwg ei tfod yn feistr ar yr holl faes ac yn enwedig ar Hynafiaetheg. P11 J. J. YM MIN YR HWYR. Gan Dyfnallt. 49 tud. Bydd yn dda gan edmygwyr Dyfnallt groesawu'r gyfrol fechan hon. Cynnwys ei feddwl a'i brofiad vn wyneb agweddau amrywiol bywyd a byd. Nid oes gynllun i'r llyfr. Y mae materion pob un o'r deg pennod ar hugain byr yn wahanol. Nid ymdry'r awdur yn hir gyda dim, ond y mae'n trafod pob peth gyda chyffyrddiad ysgafn a swynol, ac mewn iaith lân a dillyn. Ceir ym mhob ysgrif rywbeth gwerth myfyrio arno. Gwêl ei gyfeillion lawer o Ddyfnallt yn y llyfr ond Dyfnallt heb ei ddiriedi a'i hiwmor, Dytfnallt fyfyrgar ym min yr hwyr. Rhodded inni eto gyfrol yn llawn o'i chwerthin iach a hoyw. D. P.