Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. NODIADAU CYFFREDINOL. UN o fudiadau pwysicaf ein dyddiau ni ydyw addysg i bobl mewn oed, ac er nad peth di- weddar ydyw'r syniad, diau mai lledaeniad yr addysg honno ydyw un o nodweddion mwyaf rhamantus datblygiadau addysgol diweddar y wlad. Y mae Cymru, wrth gwrs, yn hen gynefin â'r peth mewn ffurf arall, yn enwedig oddi ar ddyddiau ysgolion teith- iol Griffith Jones a sefydliad yr Ysgol Sul o dan ar- weiniad Thomas Charles o'r Bala. Eithr y mae'n amheus a sylweddolwyd i'r byw, hyd yn oed yng Nghymru sydd mor gyfarwydd â'r traddodiad, ystyr y datblygiad cyflym a gymerodd Ie yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf. Y mae addysg pobl mewn oed erbyn hyn wedi dyfod yn rhan mor hanfodol o'n cyfundrefn addysg genedlaethol ag ydyw'r ysgolion elfennol a'r ysgolion canol a Choleg- au'r Brifysgol. Er ein bod yn ddigon cyfarwydd â'r syn- iad o addysgu pobl mewn oed, nid oedd a fynno'r addysg honno ddim â'r gyfundrefn swyddogol a geid yn y wlad, ac o ganlyniad fe ddatblygodd ar ei llwybrau priod ei hun. Cynhyrchodd sefydliadau a ddylanwadodd yn drwm ar fywyd y genedl, a'r pwysicaf ohonynt, yn ddiamau, ydoedd yr Ysgol Sul, yr Eisteddfod, a'r Cyfarfod Llên a Chân. Yr oedd y sefydliadau hyn mewn perthynas agos iawn â'i gilydd, ac nid anfynych y toddai'r mudiadau cref- yddol a llenyddol i'w gilydd. Yr oedd gwerin y wlad yn perthyn i'r naill fel y 1lall, ac nid gormodiaith fyddai dy- wedyd mai gwerinwyr ydoedd enwau mawr y ganrif o'r blaen yng Nghymru. Y mae'n amhosibl dyfod yn agos at ddeall bywyd y genedl yn y cyfnod hwnnw heb roddi eu gwerth a'u hystyr llawn i'r sefydliadau hynny. CYF. LXXXIV. RHIF yu.. GORFFENNAF, 1929.