Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SYR JOHN MORRIS-JONES. I. O'κ holl athrawon a gefais i mewn pedair gwlad ac o bed- air cenedl, gan fy hen athro Cymraeg ym Mangor yr oedd y gallu mwyaf i ennyn brwdfrydedd ei ddisgyblion. Nid trwy weithio'n galed gyda'i ddosbarth y gwnâi hynny, canys hamddenol ac wrth ei bwysau y darlithiai, ond trwy ryw reddf gyfrin i greu diddordeb ac i ennill serch at y pwnc yr ymdrinid ag ef. Denu yn hytrach na chymell yd- oedd nod y ddysg a gyfrannai ef. Collid pob cof am arhol- iad yn y cariad a gynheuid ynom at yr iaith, yn arbennig ei barddoniaeth, ac er myned ymron chwarter canrif heibio er yr amser dedwydd hwnnw, teimlaf eto gyfaredd ei lais wrth ddarllen llinellau o gywydd, a gwelaf unwaith eto'r mwynhad a ddisgleiriai yn ei drem a'r wên a ymledai dros ei wyneb. Y pryd hwnnw yr oeddwn yn rhy ieuanc i amgyffred y ddyled oedd ar Gymru iddo. Wedyn y gwybûm ac y deellais mai ef yn hytrach na neb arall a roesai raen ar yr iaith ac edfryd prydferthwch a cheinder i'r farddoniaeth. Canfûm pa sut y buasai rhyw rhagluniaeth gudd yn ymorol am waredwr a cheidwad iddynt. Yn ei eiriau ef ei hun,* ‘ ‘ ar ddydd Nadolig 1879 bu fy nhad farw. Yna bu raid i mi aros gartref i helpu fy mam; ac yno y bûm trwy'r flwyddyn 1880, yn darllen Talhaiarn a Cheiriog a Gorchestion Beirdd Cymru, a Thrysorfa Hynafiaethol Owen Williams Waunfawr, a phob cyfryw beth y cawn afael arno yn traethu am lenyddiaeth Gymraeg, yn en- wedig barddoniaeth." Yr unrhyw ragluniaeth a barodd fod yn well ganddo lyfrau Cymraeg y Bodleian yn Rhyd- ychen na mathematics, ei fod yn un o sefydlwyr Cym- deithas Dafydd ap Gwilym ym Mai 1886, ei dueddu i ddilyn darlithiau yr Athro Rhys, a chael ohono ysgoloriaeth ychwanegol yn 1887 fel y gallai astudio Cymraeg a Gwyddeleg am flwyddyn arall. *Transactions y Cymrodorion, 1921, td. 154.