Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SYR JOHN MORRIS-JONES. II. GAN i'r Athro J. Lloyd-Jones a minnau ddyfod o dan ddylanwad Syr John yr un adeg, ac yn yr un lle, sef ar ddechrau tymor Hydref 1902 yng Ngholeg y Gogledd, ac inni eistedd gyda'n gilydd yn ei ddarlithiau hyd haf I906, y mae'n hatgofion amdano yn rhwym o gyd-redeg. Ond rhag iddynt ddilyn yn hollol yr un llwybrau yn y rhifyn hwn o'r TRAETHODYDD, cymerodd ef y wedd gyffredinol, a gadael y manion i minnau. Ategaf y cwbl a ddywedodd am y blynyddoedd ded- wydd hynny, a'r ysbrydiaeth a gaem wrth wrando ar ein hen Athro ym meinciau cefn y Latin Room (fel rheol) yn yr hen Goleg; dosbarth llawen, tyrfus, â lleisiau uchel ac â thraed nerthol. Beth bynnag arall oedd wan gen- nym, medrem guro'r llawr â'n traed, nes bod y Penrhyn Arms yn crynu i'w sylfeini, pan fynnem ei groesawu ef neu ddiolch iddo am un o'i straeon difyr. Deuai'r rheini rwan ac yn y man i fywiogi peth ar farweidd-dra Gorch- estion y Beirdd, neu'r Latin Element, stori pen y cloc, stori'r ffarmwr o Sir Fôn a'r cae sâl hwnnw, neu honno am y dyn a syllai yn llygad pob ceiniog nes bod twll ynddi, cyn medru ffarwelio â hi. Wedyn ambell fonclust go hapus,-merch yn y dosbarth â thafod annosbarthus ganddi, a honno'n sydyn yn cael cwpled yn ffrwyn ac yn fwsel, A fo doeth, efô a dau, Annoeth ni reol enau! Ac os digwyddai i'r ferch honno fod yn ddistaw, disgyn- nai'r ddyrnod ar William Owen Pughe, heb glwyfo neb. A llu o'r cyfryw bethau. Gwrthfawrogem y darlithiau Cymraeg yn anad pob un arall yn y dyddiau diddan hynny, ac er tristed yr achlysur, daw peth o'r mwynder hwnnw'n ôl ar draws y blynyddoedd, wrth ysgrifennu'r llinellau hyn. Gramadegwr penigamp, meistr perffaith ar ei bwnc, ac awdurdod yn ei eiriau ac er mai Saesneg oedd y ddar- lith, Cymraeg oedd ei thestun, a chaem glywed ynddi