Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR EFENGYL YN OL KARL BARTH.* i. Ers tro bellach daeth sôn a sibrwd drosodd i'r wlad hon am fudiad diwinyddol newydd sy'n tynnu sylw mawr ar y Cyfandir. Prif apostol y mudiad neu'r ysgol newydd yw Karl Barth, er bod iddo gefnogwyr galluog, megis Thur- neysen, Gogarten, a Brunnen. Cafwyd nifer o ysgrifau ar ddysgeidiaeth Barth yn rhai o gylchgronau Lloegr ac America, ac ni bu heb ei ddehonglydd yng Nghymru hefyd (gweler ysgrifau galluog y Parch. J. Vernon Lewis yn Yr Efrydydd, Gorffennaf ac Awst 1927). Ond hyd yn awr ni chyfieithiwyd un o'i lyfrau i na Saesneg na Chym- raeg. O'r diwedd, fodd bynnag, wele gyfieithiad i'r Saes- neg o'i Das Wort Gottes wedi ei gyhoeddi yn yr Unol Daleithiau. Nid dyma ei lyfr pwysicaf-tebyg mai ei Es- boniad ar y Llythyr at y Rhufeiniaid yw hwnnw. Ond ceir yma egwyddorion hanfodol ei ddysgeidiaeth ac eng- hraifft nodweddiadol o'i ddull gwreiddiol a grymus ond profoclyd o drafod pynciau mawr y ffydd. Da yw i ddar- llenwyr Cymraeg wybod rhywbeth am gynnwys llyfr fel hwn, ac os yw'n bosibl, ei ddarllen; oblegid er inni efallai anghytuno â'i safbwynt, dylem wybod am fudiadau pwysig a dylanwadol sy'n digwydd y tu allan i derfynau cyfyng ein gwlad ein hunain. Cyfres o anerchiadau a draddodwyd mewn gwahanol gynadleddau yw cynnwys y gyfrol y cyfeiriwn ati. Nid corff taclus o ddiwinyddiaeth ydyw, ond maniffesto proff- wyd o argyhoeddiadau angerddol. Safbwynt yn hytrach na chyfundrefn a geir ynddo. Egni yn hytrach na chyd- bwysedd a threfn yw nodwedd y llyfr. Y mae'r awdur fel llosgfynydd yn bwrw ei lafa eiriasboeth ar y gwastadedd o'i gwmpas, yn hytrach na fel haul yn gwasgar yn dawel ei oleuni mwynaidd dros fro a bryn. *The Word of God and the Word of Man, by Karl Barth, D.D., Professor at the University of Munster, in Westphalia. Translated by Douglas Horton. (The Pilgrim Press, U.S.A. 10/).