Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YMWELIAD A SIR GAERFYRDDIN. Sir â hawl ganddi i gornel gynnes yng nghalon pob Meth- odist Calfinaidd yw Sir Gaerfyrddin. Y mae dyled ein Heglwys ni, a dyled ein cenedl o ran hynny, yn drom iawn iddi. Nid yn fynych y rhodded i mi'r pleser o'i gweled, nac o brofi gwres caredigrwydd ei phobl. Ym mis Mehefin 1925, fodd bynnag, cynhelid y Gymanfa Gyffred- inol yn nheml Heol y Dwr, yn nhref Caerfyrddin, a dig- wyddodd bod i minnau achlysur i fod yn honno. Gwa- hoddwyd fi'n garedig gan ddwy eglwys i bregethu iddynt ar y Sul a'r Llun o flaen y Gymanfa, a chan fy mod yn bregethwr o'r Nortìi," ac yn dyfod i'r Gymanfa, an- rhydeddwyd oedfaon y Sul a'r Llun drwy eu galw'n gwrdd pregethu." Ni wn i a oes ddiffiniad swyddogol a chyfundebol o'r ymadrodd hwn, cwrdd neu gyfar- fod pregethu;" ac ni wn chwaith beth, yn fanwl, yw'r gwahaniaeth rhwng Sul cyfarfod pregethu a rhyw Sul arall, yn arbennig pan na fo dwbwl hand," ys dywedai Hwmphra Williams, Ffestiniog. Un gwahaniaeth, o bosibl, ydyw y disgwylir i'r gwr gwadd bregethu deir- gwaith yn yr un lle ar Sul cyfarfod;" ac os digwydd iddo fod yn Lerpwl neu Fanceinion, gofynnir iddo bre- gethu yn Saesneg yn y prynhawn. Cyfrifir bod y Saeson yn rhy ddefosiynol i gysgu yn y prynhawn, ond prin y dis- gwylir i'r Cymry beidio â chymryd cyntun." Pa wedd bynnag, rhoddwyd i mi'r fraint o bregethu deirgwaith y Sul ym Methania, Caerfyrddin, a dwywaith y Llun ym Mhántgwyn ar bwys y Nantgaredig. Ni ddigwyddodd dim diangof, ys dywaid y prif lenor- ion, ar y daith o Gaernarfon i Gaerfyrddin. Cofiaf deithio gynt o Aberystwyth ar y Manchestcr and Milford." Am y gangen enwog hon o ffordd haearn y dywedodd rhyw walch direidus nad oedd hi nac yn cychwyn ym Man- chester nac yn dibennu ym Milford. Ei phrif nodwedd hi oedd arafwch dymunol a hamdden adfywiol. I ddyn o ganol ffwdan a therfysg tref, a phrysurdeb bywyd wedi dechrau peri i'w nerfau ddawnsio, nid oedd dim i'w gym- haru â threulio wythnos ar y Manchester and Milford."