Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

IEREMEIA: EI AMSER A'I WAITH. I. UN o orchwylion anhawddaf beirniadaeth Feiblaidd ydyw olrhain perthynas Ieremeia â'i gyfnod, a haws na dim arall yw i efrydydd ei gael ei hun mewn ffordd bengaead ar y diriogaeth hon. Y mae cysylltiad y proffwyd â diwyg- iad Ioseia yn enghraifft deg o hyn. Yn ôl Ier. i. 2, fe alwyd y proffwyd yn y drydedd flwyddyn ar ddeg o deyrn- asiad Ioseia. Od yw hyn yn gywir, cychwynasai ar ei waith tua phum mlynedd cyn y diwygiad (621 C.C.). Eithr nid oes air o sôn amdano yn yr hanes a roddir am gych- wyn y diwygiad, nac ychwaith ynglyn â darganfod llyfr y gyfraith a gysylltir ag ef. Sut y gellir cyfrif am y distawrwydd hwn? A gafodd ei anwybyddu am wrth- wynebu ohono'r mudiad? Neu a oedd ef eto, ac yntau'n hanu o bentref dinod ym Meniamin, heb ennill ei safle fel proffwyd yn y brifddinas? Bid sicr, gellir dianc rhag yr anhawster hwn, o chredir, fel y myn rhai, bod y dyddiad uchod yn anghywir, ac na alwyd mo Ieremia i'w swydd hyd y flwyddyn 608 C.C., pan laddwyd Ioseia, ac y darfu i'r diwygiad yntau mewn un wedd arno erthylu. Eithr tywyll ac ansicr yw'r safle hon hefyd yn wyneb Ier. xi. I-xii. 6, canys fe ddywaid yr adran hon i Ieremeia gael ei orchymyn i fyned trwy Gaer- salem a dinasoedd Iwda i geisio'u darbwyllo i wrando ar eiriau'r cyfamod hwn." Beth bynnag a fo'n barn am ddyddiad y genhadaeth hon, fe edy'r hanes yr argraff arnom bod Ieremeia ar ryw adeg o'i oes o blaid y diwyg- iad. Pan gofiwn eto mai polisi'r diwygwyr oedd gwn- euthur Caersalem a'i theml yn ganolfan addoli'r genedl, a allwn gysoni hyn â dysgeidiaeth Ieremeia am hanfodion gwir grefydd, ac â'i argyhoeddiad y gallai honno fyw a bywiocáu boed teml neu beidio ? Wrth gwrs, hawdd yw dywedyd y gallai'r proffwyd newid ei farn am werth y diwygiad; ond nid mor hawdd, er gwaethaf rhybudd Duhm ynglŷn â pherygl "y dychymyg po'blogaidd,"