Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DIWINYDDIAETH LLYFR EMYNAU NEWYDD Y METHODISTIAID CALFINAIDD A WESLEAIDD. Nid peth hawdd cael gafael arno ydyw diwinyddiaeth emyn. Y mae rhywbeth yno'n debyg i arogl blodeuyn. Gwyr pawb ei fod yno, ond peth arall yw ceisio ei ddiffinio a'i ddadansoddi. Y mae'n amhosibl gan hynny wasgu diwinyddiaeth ein hemynau i unrhyw system a gwneuthur cyfundrefn ohonynt. Nid er mwyn eu diwinyddiaeth yr ysgrifennwyd hwynt; ac yn wir y mae'r emyn a sgrif- ennwyd er mwyn ei ddiwinyddiaeth yn peidio â bod yn emyn. Gwall pwysig mewn emyn yw bod yn fath ar gredo athrawiaethol, neu gyffes ffydd wedi ei throi yn rhigwm difywyd. Felly disgwylir i Dduw dderbyn mawl Armin- aidd gan rai, a mawl Calfinaidd gan eraill. Clod i Dduw am iachawdwriaeth yw emyn; nid barn dynion o ber- thynas iddi, ond mawl a gogoniant i Dduw amdani. Mynegiad aiiymwybodol o ddiwinyddiaeth a geir mewn emyn, ac o bosibl fod ei ddiwinyddiaeth yn fwy gwerthfawr ac yn iachach am ei bod yn anymwybodol. Cynyrch profiad yw emyn, a iaith y teimlad a geir ynddo ran fwyaf. Dyna'r rheswm pam y cynhyrchir cynifer o emynau ar adeg diwygiad, pan yw profiad yn eirias, a'r teimlad yn ferw. Clywsom un emynydd enwog yn dweud na ellir sgrifennu gwir emyn ond yng nghynnwrf diwyg- iad. Ar y llaw arall, syniadau oer y deall a geir mewn athrawiaeth, a thermau manwl rheswm yw ei hiaith. Ni ddylid er hynny ysgar y ddau yn llwyr oddi wrth ei gilydd, oherwydd deillia sylwedd y ddau o'r un ffynhonnell. Yn ôl hen ddywediad, Y galon yn y pen draw a gynhyrcha'r diwinydd"; a sicr yw mai'r galon a gynhyrcha'r emyn- ydd. Ond da fyddai inni gofio'r gwahaniaeth yma, mai mynegiad o brofiad i bwrpas mawl ydyw emyn, ond cais i roi esboniad ar y profiad i bwrpas deall yw diwinyddiaeth. Ond y mae'n bosibl casglu oddi wrth yr emynau beth