Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIADAU. COFIANT Y DIWEDDAR BARCHEDIG JOHN WILLIAMS, D.D. Gan y Parch. R. R. Hughes, B.A., Niwbwrch. Argra/f- wyd yn Swyddfa'r Cyfundeb. Pris 7/ Bu farw'r gwr enwog y ceir ei Gofiant ym mis Tachwedd, 1921. Disgwylid yn eiddgar am ymddangosiad y Cofiant. Nid ydym yn credu fod hiraeth ei Gyfundeb, nac yn wir ei gyd-genedl, yn gymaint ar ôl neb er pan fu farw'r Parch. John Jones, Talysarn; aeth y ddau bregethwr hyn yn ddwfn i galon pob dosbarth o'n cenedl. A chroesawn yn galonnog iawn y Cofiant sydd ger ein bron. Nid am- heuwn na ddarllenir ef gyda blas gan wrandawyr y pregethwr mawr o Frynsiencyn. Meddai'r Cofiannydd fanteision arbennig at ei orchwyl. Magwyd ef ym Môn, dygwyd ef i fyny wrth draed y gwrthrych, a threuliodd ran o'i oes o fewn yr un awyrgylch. Heblaw hynny, adwaenir y Parch. R. R. Hughes fel ,gŵr o allu mawr a medr neilltuol i elfennu cymeriadau a symudiadau. Diau y ceir yn y llyfr fân frychan, megis Balaam am Balac, a Dawson am Prof. Dowden, a theimlwn fod yr awdur yn rhy dueddol i ddwyn i mewn rai cyfeiriadau, a rhai dyfyniadau, y sydd islaw lefel uchel y Cofiant. Dyry'r Cofiannydd eglurhad liawn am yr elfennau a ffurfiodd gym- eriad gweinidogaethol y gwrthrych. Dengys fod Dr. John Williams yn gynnyrch Môn. Prin y gallasai'r fath bregethwr godi yn un rhan arall o Gymru, er yr amheua'r awdur a oedd dawn Môn yn nodweddu Dr. Williams, yn enwedig ar ôl ei flynyddau cyntaf; ond yn sicr yr oedd wedi etiíeddu rhai o nodweddion dyfnaf ei ddawn o'r Ynys enwog y magwyd ef ynddi, ac a gerid mor fawr ganddo. Daeth llawer o draddodiadau Môn iddo drwy ddylanwad ei dad, Mr. John Williams, y mae'n amlwg ac yn wir ni allai neb fod yng nghymdeithas Dr. Williams heb gantfod ynddo ôl y traddodiadau am John Elias, arwr ei febyd, ac un y dychwelodd yntau'n ôl ato, fel y dangosai ei Ddar- lith odidog ar John Elias. Darlith oedd honno a roddodd syniad i'r oes bresennol am rym areithyddiaeth y pregethwr rhyfedd hwnnw. Dangosir drachefn mai'r Parch. Henry Rees a adawodd ei ôl ddyfnatf arno o ran ffurf lenyddol ei bregethau. Teimlid hyn yn ystod ei weinidogaeth ym Mrynsiencyn. Diau i Dr. John Hughes adael argraff arno, yn enwedig o ran ffurf cyfansoddiad ei bregethau, a hefyd yn ei hoffter o'r Gymraeg. Eto hawlia'r Cofiannydd, a hynny'n deg, fod Dr. John Williams wedi tyfu i ffurf oedd yn briodol iddo ei hun. Nid amheuid ef o efelychu'r un o'r arwyr, yn enwedig ar ôl ei ddyfodiad i Lerpwl. Yn wir, gellir edrych arno íel y pregethwr mwyaf perffaith o ran ffurf ariistic a welodd Cymru, a chredwn mai dyma argyhoeddiad pawb a ddarllenodd y ddwy gyfrol o'i bregethau. Prin y gellir enwi un pregethwr y mae cyhoeddi ei bregethau wedi gwneud cystal cyfiawnder â'r pregethau pan eu traddodwyd. Cyfyd hyn yn ddiau o berffeithrwydd y ffurf a roddwyd iddynt. Pennod ddiddorol, a galluog, yw'r un 11e y mae'r Cofiannydd yn elfennu nodweddion pregethau Dr. Williams mewn gwahanol 'gofnodau ar ei fywyd,-yr Athrawiaethol, yr Esthetig, Pregethau Barn, a'r rhai Meddylegol. Diau y swnia rhai o'r ymadroddion hyn yn ddieithr