Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

i'r darllenwyr; ond ar ôl eu darllen a meddwl amdanynt, teimlir ei fod yn ymgais ddeheuig iawn i ddisgrifio'r pregethau o ran ffurf a nodwedd allanol. Rhydd y Cofiannydd Ie amlwg i berthynas ei wrthrych â chwesti- ynau cyhoeddus, yn arbennig â Datgysylltiad a'r Rhytfel Mawr. Braidd na thybiem fod Mr. Hughes yn rhoddi gormod o Ie i waith Dr. Williams ynglyn â'r pwnc. Ymdrinia'n lled helaeth ac yn dra gofalus am ei waith ynglyn â'r Rhyfel. Efallai mai disgrifiad o Dr. Williams fel dyn a enilla fwyaf o galon y darllenwyr. Er y gwahaniaetha llawer oddi wrth syniadau'r pregethwr mawr, eto hoffid ef yn fawr ac yn gyffredinol. Y mae'n amlwg fod y Cofiannydd wedi llwyddo i ddangos ei arwr fel yr yd- oedd, ac ni ifydd i'r darllenwyr ei garu yn llai oherwydd hyn. Dyma ddarlun o un o bregethwyr mwyaf ei oes, a gwna'r Cofiannydd inni edrych arno fel big human, â benthyca brawddeg o eiddo Prof. Drummond am Mr. Moody. Edrych Mr. Hughes ar ei wrthrych fel pregethwr mawr, ïe pre- gethwr Cymreig, ac fel un oedd yn hynod naturiol ac yn agored i ddylanwadau cyffredin ei oes. Cyfuna'r awdur y gallu i elfennu a hoffter amlwg at ei wrthrych. Efallai y gellir dweud nad yw'r Cof- iant hwn ar y llinellau cyffredin. Ni ryfeddem pe dywedid mae study o Dr. Williams ydyw yn hytrach na Chofiant iddo. Y mae wedi ei ysgrifennu ar linellau newydd, a pherthyn i'r ysgol newydd o gofiannwyr yn Ffrainc ac yn y wlad hon. Bron na themtir ni i dybied fod Mr. Hughes yn cael ei ddenu yn ormodol i elfennu,- megis yn ei osgo feirniadol ar safle ddiwinyddol Dr. Williams. A oedd angen pwysleisio mor fynych ei fod yn perthyn i'r hen ysgol? Pa fodd bynnag, y mae'r Cofiant galluog hwn yn llwyddo i ddangos mawredd y pregethwr a'i ymroddiad ar hyd ei oes i ber- ffeithio ei bregethau. Xi ellir darllen am ei lafur dyfal yn y cyf- eiriad hwn heb ei barchu, a bendithio Duw amdano. Credwn y bydd darllen ei hanes, yn arbennig yn yr ystyr hon, yn symbyliad gwir- ioneddol i bregethwyr ieuanc yr oes hon. Ychydig o hanes mwyaf mewnol y gwrthrych a roddir. Bywyd tawel ydoedd yn yr ystyr hon, heb ymdrech feddyliol nac ysbrydol fel a geir yng Nghofiant Robertson o Brighton. Eto ni phetrusem ddweud fod Mr. Hughes wedi llwyddo i gynhyrchu Cofiant gwych, a hynny ar linellau newydd, ac fe'i darllenir yn ddiau tra y cymer ein cenedl ddiddordeb mewn pregethwr a phregethu. HANES METHODISTIAETH GORLLEWIN MEIRIONYDD. Cyf. III. Gan y Parch. Hugh Ellis. Cyhoeddedig gan E. W. Evans, Dolgellau. Pris 7/6. Wele'r drydedd gyfrol o Hanes Methodistiaeth Meirionnydd wedi ymddangos, yn cynnwys Hanes Methodistiaeth yn y rhan hon o Gymru yn ystod y deugain mlynedd o 1885­1925. Ysgrifennwyd y ddwy gyfrol gyntaf gan y Parch. Robert Owen, M.A., Pennal, <gŵr a fu'n Ysgritfennydd Cyfarfod Misol Gorllewin Meirionnydd am lawer o flynyddoedd. Da gennym weled darlun rhagorol o'r hen Ysgrifennydd Hybarch ar ddechrau y gyfrol hon. Yn wir y mae'r holl ddarluniau yn y gyfrol yn rhagorol, ac yn ad- lewyrchu clod ar y swyddfa. Medd yr hanesydd presennol gymhwysterau neilltuol i gyflawni ei waith. Daeth i drigiannu yn yr Henaduriaeth ychydig flynyddau ar 61 dechrau'r cyfnod hwn, a threuliodd ei oes ynddi yn ystod y rhan gyntaf trigai ym Mhennal, cartre'r hen hanesydd, yr hwn oedd yn