Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y mae'n amlwg oddi wrth y llyfr hwn tfod Mr. Ellis yn eu hadnabod ac yn eu gwerthfawrogi. Wrth derfynu dymunem ddweud i'r argraffwyr gyflawni eu gwaith yn rhagorol, a chredwn fod y darllenwyr yn hoffi cael eu llyfrau wedi eu dwyn allan yn gyfartal i'r rhai a droir allan gan y Wasg Saesneg. Ni siomir hwy yn y Gyfrol hon. Cressington, Lerpwl. JOHN Owen. HAXES CYMRU YN Y DDEUNAWFED GANRIF. Gan R. T. Jenhins, M.A., Ll.B. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. 1928. Td. i.­viii., 1­172. 2S. 6c. Parodd darllen llu ysgrifau Mr. R. T. Jenkins, ac yn eu mys Ffrainc a'i Phobl, Dinasoedd Meirwon, John Morley fel Llenor, Y Scolor Mawr, Clywed yr Hyfrydlais, i lawer ohonom deimlo'r hen ddihareb melys, moes mwy yn dyfod yn brofiad inni. Yr oedd awdur yr erthyglau y cyfeiriwyd atynt yn un o'r caredigion, cyn ys- grifennu ohono ei Hanes Cymru yn y Ddeunawfed Ganrif. Perthyn y gyfrol i gyfres yn dwyn y teitl-" Cyfres y Brifysgol a'r Werin," a chan mai hon yw'r gyfrol gyntaf yn y gyfres, gesyd hyn arbenigrwydd ychwanegol arni. A gellir dywedyd yn ddibetrus, os yw y gyntaf yn enghraifft o'r cyfrolau sydd i ddilyn, yr etyb y gyfres bwrpas rhagorol-y cyflenwa angen. Teg casglu oddi wrth wrth ddau air-Prifysgol a'r Werin — a geir yn nheitl y gyfres, y dis- gwylid dau beth-ymchwiliad trwyadl fel ffrwyth addysg Prifysgol, a rhoddi ffrwyth yr ymchwiliad mewn iaith seml, raenus, a ddeellir gan y bobl, a heb ormod o liw Prifysgol arni. Ac y mae awdur y gyfrol hon yn feistr ar y ddeubeth hyn. Mae ei wybodaeth yn eang a thrwyadl, y mae'r bydolwg ganddo, ac y mae'n gallu cyfleu ei feddwl mewn Cymraeg gwlad, syml. Rhennir y llyfr yn bum pennod. (1) Cymru Elis Wyn, (2) Yr Hen Eglwys Loeger," (3) Y Sentars," (4) Methodistiaeth yng Nghymru, (5) Cymru Twm o'r Nant. Y mae teitlau'r penodau yn newydd, ond nid yn fympwyol, y maent yn gymorth i ddeall prif fudiadau'r ganrif. Yn y bennod gyntaf ceir cipdrem ar fywyd Cymru mewn tref a gwlad yn nechrau'r ddeunawfed ganrif. Y Tyddynwyr, y cynnyrch a god- ent o'u tir, yn haidd, rhyg, y "ceirch blewog;" eu hoffer amaeth- yddiaeth, yr aradr bren hen ffasiwn, y ceir llusg, y ffust, a'r rhaw fawn bywyd caled y werin-y llafurwr yn gweithio am chwe cheiniog y dydd drwy y flwyddyn, ar ei fwyd ei hun. Prif fwydydd y bobl gyffredin, bara ceirch, llumru, cawl, a thamaid o gig moch yn awr ac eilwaith. Yng nghwrs y bennod ceir adran eithriadol o ddiddorol yn ymwneud â gwartheg a phorthmyn, rhoir llawer o fanylion yn dangos pwysigrwydd y porthmyn, rhai o'u triciau ynglyn â'u galwed- igaeth, rhai enwau dynion amlwg o'u nifer, Edward Morys, Pentre Llwydion, a Dafydd Jones yr emynydd o Gaeo. Sonnir am bedoli'r gwartheg, ac am y grefft o daflu eidion yn ôl dull y Gogledd ac yn ôl dull y De yn barod i'w bedoli, ac am ystrywiau'r porth- myn i osgoi y ffyrdd tyrpeg." Am yr uchelwyr yng Nghymru dy- wedir-" Machlud yr oedd eu haul, mor bell ag yr oedd arweinydd- iaeth y wlad yn y cwestiwn. Dewisodd yr uchelwyr werthu eu genedigaeth-fraint, pan droesant eu cefnau ar y peth boneddigeidd- iaf yn eu cyrraedd, sef iaith a thraddodiadau eu gwlad." Yn y bennod a ymwnâ â Hen Eglwys Loeger rhoddir y lle amlycaf i'r hyn a wnaed ganddi ynglyn ag Addysg Cymru. Telir gwrogaeth i Syr John Phillips, y Deon John Jones o Fangor, Edmwnd