Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y newid mewn offer amaethyddiaeth, ac yng nghynnyrch y tir. Ceir cyfeiriadau at wlân a gweu, hetiau ffelt Ceredi'gion, brethyn Sir Fôn," y Dreth Fedydd a delid wrth gofrestru bedydd plant, cyrddau gweu," a ffeiriau hosanau." Dywedir bod gwerth dau canpunt o hosanau yn gadael y Bala bob wythnos tua chanol y ganrif, ac erbyn amser Pennant anfonid allan werth tri chant a hanner o bunnau. Rhoir sylw yng nghwrs y bennod i chwarel a mwyn, anter- liwt, almanac, a blodeugerdd,a'r Eisteddfod. Ar derfyn y gyfrol ceir Nodiadau ar Lyfrau yn ymwneud â'r cyfnod, a dilynir y Nod- iadau gan Fynegair. Gobeithiwn y bydd i'r gyfrol ragorol hon gael y cylchrediad helaeth a deilynga. Lerpwl. D. D. Williams. THE PSYCHOLOGY OF THE CHRISTIAN FAITH. Being Sel- ections from the Writings of the late Gaston Frommel. Edited by J. Vernon Bartlet, D.D., Oxford. Translated from the French by J Macartney Wilson, D.D. pp. 194. 7/6. {Student Christian Movement). Y mae gwaith Frommel yn adnabyddus ers blynyddoedd bellach i efrydwyr diwinyddol sy'n darllen y Ffrangeg, a mawr werthfawrog- wyd ei waith gan rai-y diweddar Athro David Williams yn eu plith. Wele ddetholiad o'i weithiau yn awr yng nghyrraedd darllenwyr Saes- neg a diamau gennym y bydd ei astudio yn fendith i lawer yn y dyddiau hyn. Oblegid meddai Frommel athrylith grefyddol a medd- ylegol arbennig iawn. Caned ef yn Alsace (1862) a rhedai gwaed yr Almaenwyr a'r Ffranc- wr yn ei wythiennau a gwelwn nodweddion y naill a'r llall yn ei feddwl, sef trylwyredd y cyntaf, ac afiaith ac eglurder yr olaf. Bu farw yn ddyn cymharol ieuainc (1906) ar ôl gwasanaeth fel athro mewn diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Genefa am ddeuddeng mlynedd. Pennod ddiddorol yn y gyfrol yw yr hon sy'n dwyn y pennawd A Frank Explanation — araith a draddododd i'w ddosbarth diwinyddol. Ynddi edrydd hanes ei droedigaeth, a'r modd yr arweiniwyd ef i geisio egluro ei grefydd a rhoddi rheswm am y gobaith oedd ynddo. Anaml iawn y mae gwaith diwinyddol mor uniongyrchol ddibynnol ar brofiad ei awdur â'r eiddo Frommel. Adgofir ni o ddarlithiau Gifford Syr Henry Jones, A Faith that Enquires." Y mae'r un nwyd i'w deimlo ynddynt, yr un ymgais i roddi mynegiad i ystyr eu bywyd, a'r un argyhoeddiad o bwysigrwydd anhraethol meddu syniadau clir a safadwy ar Ibrif bynciau bywyd a bod; cyrhaeddodd y ddau hefyd sicrwydd ffydd. Medd eu gweithiau, gan hynny, ddi- ddordeb bywgraffyddol; teimlwn y dadlennir cyfrinion eu bywyd ger bron ein llygaid tra y dilynwn hwy yn dadansoddi ac yn cyfosod profiadau dyfnaf yr ymwybyddiaeth ddynol. O ran cynnwys eu sys- temau gwahaniaethant gryn lawer. Y mae Frommel yn agosach at yr Apostol Paul nag ydyw Henry Jones; ac o ran eu hathroniaeth dilyn y cyntaf awgrymiadau Kant yn hytrach na Hegel, prif athro Henry Jones. Dilyn Frommel y diwinydd Ellmynaidd Schleier- macher hefyd mewn chwilio i brofiad dyn am seiliau diwinyddiaeth; ond yn wahanol iddo barna mai yn ymwybyddiaeth foesol dyn y ceir seiliau cadarn. Dibrisir Meddyleg gan rai diwinyddion megis Karl Barth ond tybiwn fod Frommel yn agos i'w Ie pan y deil fod yr Efengyl yn gyfaddas i natur dyn, a natur dyn i'r Efengyl, a'i fod gan hynny yn barnu'n gywir y gall adnabyddiaeth o natur dyn ac o'i anghenion amrywiol ddwyn i'r golwg wir ystyr, a rhinwedd, a dilys-