Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. NODIADAU CYFFREDINOL. UN o ddigwyddiadau mawr y flwyddyn i'r Cymro yw'r Eisteddfod Genedlaethol, ac i ran Lerpwl y daeth ei chynnal y tro hwn. Bu yno o'r blaen yn 1884 ac yn 1900. Dichon y bydd amrywiaeth ,barn am ei llwydd- iant eleni: hid yr un ydyw safon pawb o farnu llwydd un- rhyw sefydliad. Dichon ,hefyd na chytuna pob un ai pri- odol i'r Eisteddfod fyned y tu allan i Gymru. Beth byn- nag a ddyweder, gwelwyd fod digon o Gymry yn Ler- pwl i drefnu rhaglen dda. Cafwyd hefyd gystadlu gwych ar lawer testun, er nad ar /bob un ym mhob adran. Nid at- aliwyd na'ngadair na'r goroh, a mýnegid nad anfuddiol a fuasai rhoddi'n wobrau y tro hwh y cadeiriau nas rhodd- wyd rai o'r blynyddoedd diwethaf, iganmor dda ydoedd yr awdlau gorau. Nid cystal y cynhyrchion mewn rhydd- iaith, â Ibarnu oddi wrth a ddywedai rhai o'r beirniaid; ni ddyfarnwyd neb yn deilwng o'r wobr o ganpunt a gynigid am draethawd ar Gwilym Hiraethog, er i dri ymgeisio. Y mae'n amlwg had oes brinder rhai i gystadlu ar lawer testun. Ond ymddengys fod llu'n cystadlu bob blwyddyn na feddant unrhyw syniad clir am ansawdd yr hyn a ddisgwylir ym mhrif ŵyl y genedl. Cwynid hefyd nid ychydig eleni, fel bob blwyddyn, oherwydd beiau elfen- nol mewn iaith. Pan gofir popeth a glywsom ac a ddar- llenasom y blynyddoedd diwethaf ar brinder gwaith graenus mewn cystadleuon, a chŵyn golygwyr 'cylchgron- au ar brinder ysgrifenwyr da, nid annaturiol ydyw inni ym- holi pa beth yw'r esboniad ar hyn oll. Ai tybed y iceir y ffrwyth y gellid yn rhesymol ei ddisgwyl ar bren ein haddysg a'n diwylliant ? Ai ynteu'r gwir yw fod yn ein