Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

WILLIAMS PANTYCELYN.* UN o'r canonau a sefydlwyd gan feirniadaeth lenyddol yr Almaen yn enwedig yw hon—pan gaffer yn llenyddiaeth un wlad beth na ellir ei gysylltu â dim oedd eisoes yn y llen- yddiaeth honno, yna chwilier am wreiddiau'r peth hwnnw yn nylanwad rhyw lenyddiaeth arall. Fe ddymchwel- wyd casgliadau'r beirniaid goddrychol mor fynych gan ymchwiliadau'r beirniaid gwrthrychol fel nad rhaid am- ddiffyn mo'r ganon hon, ond odid. Gofynnwyd i mi agor y drafodaeth hon gyda chyfeiriad arbennig at lyfr Mr. Saunders Lewis ar Williams a'i waith. Gwyddom oll fod miloedd lawer o Gymry hyd heddiw yn gyfarwydd o leiaf ag emynau Williams. Canant hwy yn y traen, ar gae'r bêl droed, mewn eisteddfod, mewn chwareudai ym mylch- au'r ddrama, mewn cyrddau gwleidyddol i ddisgwyl dyf- odiad y gwyr mawr, ac mewn capelau i dorri ychydig ar unffurfiaeth y gwasanaeth. Clywais lawer o feirniadu digon chwerw ar Mr. Lewis, gan rai na ddarllenasant ond ychydig o emynau mwyaf adnabyddus Williams, yn ôl eu haddefiad eu hunain pan eid i'w holi. Yr wyf fy hun yn ystyried mai Mr. Lewis yw'r meddyliwr cyntaf i wn- euthur dim tebyg i chwarae teg â Williams a'i waith, drwy ei astudio gyda pharch, dealltwriaeth a chywirdeb. Oni byddaf, mewn rhai man ystyriaethau, yn cwbl gytuno â'i gasgliadau ef, nid rhaid i mi ddywedyd wrth gynulliad fel hwn nad wyf yn meddwl gronyn llai o ragoriaeth ei waith oblegid hynny. Wrth sôn am "Theomemphus," fe ddywed Mr. Lewis Dyma'r gyntaf o ganeuon mawr y mudiad rhamantus yn llenyddiaeth Ewrop" (td. 106). A thrachefn: "Ef [sef Williams] yw darganfyddwr mawr y diymwybod, mangre'r nwydau, ac ef yw bardd cyntaf gwyddoniaeth a'r meddwl modern yn Ewrop (td. 119). *Ysgrifennwyd yr erthygl hon ar "Williams Pantycelyn yngolau gwaith yr Athro Saunders Lewis, M.A." ar gais Undeb Athrofa'r Bala, a darllenwyd hi yn un o gyfanfodydd yr Undeb yng Ngholeg Harlech, Gorff. 1929.