Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LINCOLN A CHAETHWASIAETH. PAN ddiddymwyd Cyfaddawd Missouri yn 1854 yr oedd meddyliau dynion yn y Taleithiau Unedig yn grythryblus. Yr oedd yr undeb rhwng y taleithiau a'i gilydd yn bedwar ugain oed eithr gofynnid yn aml a allai'r undeb hwnnw barhau'n llawer hwy. Yr oedd hen sylfaenwyr urddasol ac aristocrataidd y weriniaeth wedi marw cyn cof, braidd, i neb oedd yn fyw yn 1854, ac yr oedd cynrychiolwyr y to o wladweinwyr a'u dilynodd yn cwympo, y naill ar ôl y llall. Diffoddodd llygaid tanbaid Calhoun, distawodd tafod aur Daniel Webster, llonyddodd meddwl doeth Henry Clay, yn y bedd. Yn eu lle daeth pobl wahanol i wynebu amgylchiadau gwahanol, dynion fel Sumner a Stephen Douglas, Jeffer- son Davis a Seward, pobl oedd yn meddwl mwy am fudd- iannau adrannau nac am gadernid yr Undeb, gwýr oedd yn amddifad o eangder golwg y rhai a fu o'u blaen, yn amddifad o'u doethineb ac o'u hir-ymaros. Ac ar lawer ystyr, nid oedd hyn yn beth i ryfeddu ato, canys yr oedd yr amgylchiadau yn newydd ac yn ddyrys. Yr oedd yr amgylchiadau a'r wlad yn fwy na'r dynion oedd yno i'w hwynebu. Yr oedd eangderau mawr y Gorllewin yn agor a'r boblogaeth yn dylifo blith-draphlith trwy'r coed- wigoedd, dros y mynyddoedd, ac ar draws y gwastadedd- au tua glannau pell y Môr Tawel. Yn ystod y pedwar ugain mlynedd mwy neu lai a aeth heibio er pan gyhoedd- wyd annibyniaeth y Taleithiau, tyfodd y wlad ymhell dros derfynau y tair talaith ar ddeg ar lannau Iwerydd. Yr oedd bellach wedi cyrraedd ar draws y Cyfandir, ac fel y ffurfid talaith newydd ar ôl talaith yn yr eangder hwnnw, daeth nerthoedd newydd a phroblemau i fod na freudd- wydiasai tadau'r weriniaeth amdanynt. Cymharol ddiweddar oedd y datblygiadau hyn. Yn 1805 y croeswyd y Cyfandir gan Meriwether Lewis a Wil- liam Clark am y tro cyntaf erioed. Yr oedd yn 1833 cyn bod gwybodaeth lwyr wedi ei hennill am y llwybrau­- yr Orcgon trail, y Santa Fé trail, llwybr y Sbaeniaid a