Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWERTH A ERYS YN NHAITH Y PERERIN JOHN BUNYAN.* Ym Môn mae dwy farn ar y cwestiwn o ddarllen pre- gethau. Mae acw rai yn erbyn peth felly yn arw iawn. Y Sul nesaf," ebe blaenor wrth hen chwaer, "mi fydd acw bregethwr wrth eich bodd, mae'r gweinidog wedi newid efo hwn a hwn, ac nid darllenwr mono fo, canys mae'n ddall." Mae'n dda gan fy nghalon i glywed hynny," ebr hithau, "O na baent oll yn ddeillion!" Mae acw rai, fodd bynnag, o blaid y peth. Ebe blaenor mewn eglwys oedd yn chwilio am fugail wrth weinidog oedd â'i enw ar y rhestr fer, A fyddwch chwi, Mr. Jones, yn darllen eich pregethau?" "Wel, byddaf, fel rheol." Da iawn," ebe'r blaenor, mi wnewch y tro'n gampus i ni acw, oblegid pan fo gan bregethwr bapur, mi orffennith pan orffenno'r papur; ond lle na bo papur, y nefoedd yn unig wyr pryd y stopith o!" Pregethwr papur sydd yn eich annerch yn awr, a phan ddarffo'i bapur fe dderfydd yntau, a hynny, fe obeithir, cyn eich blino; a cheisir cadw mewn cof o hyd mai agor y mater yn unig yw'r dasg a ymddiriedwyd iddo. Y mater hwnnw yw'r gwerth a erys yn Nhaith y Pererin John Bunyan­-ddeucant a hanner o flynyddoedd ar ôl ei sgrifennu, a chyfaddefaf imi ei gael yn fater anodd traethu arno. Efallai mai ei werth crefyddol a olygir yn fwyaf ar- bennig. Y mae iddo, fodd bynnag, werth llenyddol mawr iawn. Mae safle Bunyan mewn llenyddiaeth Saesneg yn gwbl ddiogel ers cenedlaethau lawer, a Thaith y Pererin, yn fwy na'r un o'i weithiau eraill, a'i dug i'r safle hwn, ac a'i hanfarwolodd. Gallasai John Bunyan fod wedi tra- ddodi miloedd o bregethau neu fod wedi bwrw ei holl oes yn y carchar, a mynd i ebargofiant er hynny, onibai ddar- fod iddo sgrifennu un o'r llyfrau mawr yn llen y byd. *Anerchiad a draddodwyd yn un o gyfarfodydd Undeb Athrofa'% Bala, yn Harlech, Gorff. 1929.