Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

STORIAU O FYD Y SER. I frodorion cyntefig y ddaear, oesau maith yn ôl, fe ymddangosai y ffurfafen fel rhyw gymysgfa annealladwy. Ond yn bur fuan sylweddolid y gellid darostwng y nef- oedd weledig a'i phroblemau i ryw fath ar drefn. Gwelid fod yr holl nenfwd wybrennol yn troi ar ei echel mewn cyfnod penodedig o amser, pedair awr ar hugain. Gwelid hefyd fod y ser yn cadw eu safleoedd o berthynas i'w gilydd, ac oddi wrth hyn y cododd y term ser sefydlog." Yng nghwrs amser, darganfuwyd dosbarth neilltuol o gyrff nefol, a chanddynt hwythau eu symudiadau dyrys ac anesboniadwy eu hunain, a gelwid y rhai hyn yn "blaned- au," neu ser tramwyol." Mor eiddgar y gwyliai'r ser- yddwyr cyntefig symudiadau y crwydriaid rhyfedd hyn! Heb gymorth unrhyw offeryn, a chyda'r llygaid yn unig, nid oedd modd efrydu'r planedau ond trwy gymharu'n gyson eu safleoedd hwy â safleoedd y ser sefydlog. Ac i wneuthur hyn, yr oedd yn rhaid dosrannu'r ser yn deu- luoedd," a hynny gan mwyaf yn ôl awgrym trefniad nat- uriol y ser eu hunain, a rhoddi arnynt enwau cyfatebol. Nid hawdd yw penderfynu pwy gyntaf a roddodd enwau i'r ser, na pha bryd y bu hynny. Ond gan fod y rhan fwyaf o'r teuluoedd hyn o ser yn dwyn yr un enwau mewn gwahanol rannau o'r byd, gellir casglu o'r hyn lleiaf fod i'r enwi hwn ddechreuad cyffredin. Tebygol yw mai'r Eifftiaid a'r Caldeaid a ddechreuodd y gwaith, ac yna ei barhau a'i ddatblygu gan y Groegiaid a chen- hedloedd eraill. Beth hynnag am hynny, y mae tarddiad enwau'r ser wedi ei golli yn niwl y gorffennol pell. Dosbarthwyd y ser, felly, yn deuluoedd, a meddent, neu tybid eu bod yn meddu, rhyw debygrwydd i greadur- iaid ac arwyr mythyddol. Y mae'n wir bod y tebygrwydd yn anhawdd ei ganfod yn ein dyddiau ni, a weithiau, mewn ambell i enghraifft, prin y mae iddo sail o gwbl. Cymerer yr Arth Fawr, er esiampl, yr hon sydd yn adnabyddus i bawb. Y mae mor annhebyg i arth o ran ei ffurf ag y gall unrhyw beth ymron fod. Y mae'r enw "y Fen Fawr," neu'r Wagen Fawr," yn ei disgrifio'n well 0 lawer; ac