Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BARDDONIAETH Y LLYFR EMYNAU NEWYDD. LLYFR Emynau ebe'r clawr; Llyfr Emynau ebe'r wyneb- ddalen, heb enw na Chyfundeb nac Awdur na Golygydd i gyfyngu ar apêl a defnyddioldeb y casgliad ac i ddisgrif- io'i ffynhonnell,-Llyfr Emynau. Tybed a yw'r emynau a gynnwys yn ddi-enw a di-ddyddiad ? Nid drwg pe ceid llyfr felly ryw ddiwrnod. Eithr erbyn hynny ni a gaffem uwchfeirniadaeth ym myd yr emyn eto, a chystal glynu efallai wrth yr enw a'r flwyddyn a wyddom yn ddigon sicr i hepgor terfysg ac anghydsain di-alw-amdano. Cyn darllen ymhell, fodd bynnag, gwelwn fod dwy Gymanfa o'r tu. ôl i'r llyfr- Y Methodistiaid Calfi'naidd a Wesle- aidd, a ninnau'n greddfol dynnu'n het rhagllaw i Banty- celyn a Wesle yn y rhagolwg o'u gweled a'u clywed drwy gydol y llyfr. Ond odid na chawn wedi'r cwbl mai eu llyfr hwy yw yn bennaf, ac mai eu hemyn 'hwy fydd yr olaf a dyr ar ein clyw wrth orffen darllen. Ni wêl y Pwyll- gor fod yr un anhawster na dim yn gwarafun yr antur- iaeth o gyhoeddi Llyfr Emynau ar gyfer dau Gyfundeb- yn arbennig y ddau gyfundeb 'hyn, oblegid plant y Diwyg- iad Efengylaidd yn y ddeunawfed ganrif yw'r naill a'r llall ohonynt. Ni bydd yr un anhawster ychwaith i ganu'r emynau a .gynnwys, am eu bod yn gynnyrch profiad ys- brydol sydd yn ddyfnach ac yn fwy hanfodol na'r màn bethau a'u gwahana. Yn sicr, nid gormod yw hyder rhesymol fel hwn yn yr ugeinfed ganrif. Wrth ddarllen ymlaen cawn fod y Llyfr drwyddo draw yn wir gatholig ei nodwedd a'i gynnwys. Dylai Llyfr Emynau fel Pawl fod yn ddyledwr i foawtb am ei rinwedd- au; ac wele'r golygyddion ar unwaith yn prysuro i gyd- nabod yn garedig lu o wyr heb fod o'r Ffydd Galfinaidd na Wesleaidd. Gwyn ei fyd awdur emyn. Y mae un o'r awduriaid sydd yn y llyfr hwn y cofiaf yn dda amdano yn dywedyd wrthyf fod yn well ganddo am emyn cenhadol o'i waith na'r un orchest lenyddol a wnaeth erioed. Ym- ffrost tebyg oedd eiddo O. W. Holmes ynglyn â'i emyn yntau: Lord of all being throned afar.