Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DIWINYDDIAETH ATHRONYDDOL. UN o anawsterau meddwl yw cyrraedd eglurdeb. Anodd i gychwyn yw meddwl yn eglur oddi mewn, a chadw golwg ar bob rhan o faes yr efrydiaeth. Ym myd gwy- ddoniaeth fel y cyfryw haws meddwl yn eglur nag mewn diwinyddiaeth neu athroniaeth, a hynny am fod y maes yn llai a'i ystyriaethau priod o fewn cylch arbennig. Dyna'r rheswm paham yr ymddengys gwyddoniaeth mor bendant, a'i chasgliadau mor sicr, o'u cymharu â dam- caniaethau athronyddol ac athrawiaethau diwinyddol. Cyfyd pob cyfundrefn neu system o feddwl, am ei bod yn systêma," yn ymgais i gyfuno casgliadau mwy neu lai sicr yng ngwahanol daleithiau gwyddoniaeth, anaws- terau o fewn y meddwl, h.y., yn yr ymdrech i feddwl llawer o bethau ynghyd. Amlwg na ellir byth symud yr anhawster hwn o fewn y meddwl. Meidrol yw pob meddwl ac yng nghwrs datblygiad a thyfiant erys felly. Ar y llaw arall, tyf cronfa casgliadau" gwyddoniaeth o flwyddyn i flwyddyn, yn ,gyflymach o hyd, a llethir y meddwl gan yr anhawster cyd-gynyddol o drafod a threfnu y pentwr yn gyfundrefn. Anhawster pellach yw mynegi 'r gyfundrefn os a phan y daw gweledigaeth gyfunol oddi mewn. Cwynir yn aml ar siaradwyr ac ysgrifenwyr eu bod yn dywyll ac anodd eu deall. Cyfyd hyn weithiau oddi ar ddiffyg gweledig- aeth o gwbl oddi mewn; dro arall oddi ar anhawster an- orfod o gyflwyno gweledigaeth wirioneddol i eraill. Yn yr achos cyntaf, dylai'r proffwyd ymatal, neu ynteu, pan fo ef ei hun yn ddiffygiol mewn gras ataliol, dylid ei safn- rwymo. Yn yr ail achos, nid oes ffordd o waredigaeth ond drwy i'r proffwyd draethu ei faich yn syml gan gyd- nabod mai o ran y llefara, am mai o ran y gwêl ar y gorau, ac yna i'w wrand'awyr a'i ddarllenwyr arfer cyd- ymdeimlad a dychymyg yr un pryd. Nid yw'r athronydd na'r diwinydd i'w darllen yr un fath â'r gwyddonydd: methwn â gweld bod angen am gydymdeimlad na dych-