Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIADAU. YR EPISTOL AT Y PHILIPIAID Cyfieithiad Newydd. Wrecsam Hughes a'i Fab. 5c. Ni fu unrhyw gangen o Brifysgol Cymru hyd yn hyn yn fwy gweithgar, yn enwedig ym myd cyhoeddi llyfrau, nag adran ddi- winyddol Urdd y Graddedigion. Cyhoeddodd eisoes y Geiriadur Beiblaidd, a chyn bo hir bydd cyfieithiad cyflawn o'r Testament New- ydd wedi ei gwblhau dan ei nawdd. Pwyllgor Llanbedr, dan lywydd- iaeth Canon Maurice Jones, a fu'n gyfrifol am gyfieithu'r Epistol at y Philipiaid, a chyhoeddir ef, y lleiaf o'r holl gyfieithiadau hyd yma, gan wasg adnabyddus Gwrecsam. Pan gyflawna pob pwyllgor lleol ei brïod ran o'r gwaith rhagorol a ymddiriedwyd iddo, erys un dasg fawr arall, sef cymharu'r cyfieithiadau â'i gilydd er mwyn sicrhau cysondeb rhyngddynt yn y mannau y dylid cael hynny. Hyd oni wneir hynny, ofer fydd meddwl am eu crynhoi ynghyd i fTurfio Testa- ment Newydd Diwygiedig i genedl y Cymry. Mewn adolygiad byr fel hwn, lle y mae manylu'n amhosibl, y ffordd orau i roddi syniad am waith Pwyllgor Llanbedr fydd dyfynnu ei gyfieithiad o rai o adnodau mwyaf hysbys yr Epistol. Wele enghraifft o bob pennod Canys Crist yw byw i mi, ac elw yw marw (i. 21). Yn unig bydded eich ymarweddiad yn deilwng o efengyl Crist (i. 27). Bydded yncch y meddwl yma a oedd hefyd yng Nghrist Iesu, yr hwn ac yntau yn ffurf Duw ni chyfrifodd yn beth diollwng (neu, ar waelod y ddalen, yn beth i'w gipio) fod yn ogyfuwch â Duw, ond a'i gwacaodd ei hun, gan gymryd arno ffurf gwas [neu, caethwas), o'i wneuthur ar lun dynion (ii. 5 — 7). Yr wyf yn cyrchu at y nod at gamp galw uchel Duw yng Nghrist Iesu (iii. 14). Bydded eich hynawsedd yn hysbys i bob dyn Na phry- derwch mewn dim. A thangnefedd Duw sydd uwchlaw pob deall a werchyd eich calonnau a'ch meddyliau yng Nghrist Iesu. (iv. 5-7). Gellir dywedyd heb os nac oni bae fod y gwaith drwyddo yn gywir. ach cyfieithiad o'r gwreiddiol na'n Testament arferol ni, er bod hwnnw'n ddiddadl yn hapusach mewn ambell fan na hwn. Ac ar y cyfan ceidw Pwyllgor Llanbedr yn nes at yr hen gyfieithiad nag a wnaeth pwyllgorau eraill, neu o leiaf nag a wnai un y bum am rai blynyddoedd yn aelod ohono. Nid anghvwir ar un ystyr fyddai dis- grifio gwaith Pwyllgor Llanbedr fel cyfieithiad diwygiedig o'r hen gyfieithiad yn hytrach na chyfieithiad newydd o'r gwreiddiol, er ei fod wrth gwrs yn hynny hefyd. Drwyddo o'r dechrau i'r diwedd datguddir meddwl Paul yn glir- iach ac yn symlach nag a wna'r cyfieithiad cyffredin, ac aml dro newidir yr ystyr yn llwyr oherwydd cyfieithu cywir. Ac am yr un rheswm diddymir tudalennau o ymgywreinio ditfudd mewn esbon- iadau. Croesawn waith Pwyllgor Llanbedr fel cais teg i droi i'r Gymraeg ran o'r Testament Newydd sy'n llawn o anawsterau i'r cyfieithydd. Bala. G. A. EDWARDS.