Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ANCHWILIADWY OLUD CRIST, A PHREGETHAU ERAILL. Gan y diweddar Barch. Thomas Charles Williams, M.A. (Oxon.), D.D. (Edin.). Caernarfon Llyfrja'r Cyfundeb. Pris 5/ Cyfrol o ddeunaw pregeth gan wr eithriadol iawn hyd yn oed yn hanes pulpud Cymru, a Rhagair cynnwysfawr gan y'Golygydd, y Parch. John Owen, M.A., ydyw hon. Dyddiwyd yr ail bregeth yn y llyfr Tach. 1887, dim ond deufis ar ôl i'r llanc Thomas Charles Williams ddechrau pregethu. Diolch- wn i'r golygydd am roddi hon i mewn, oblegid dyma olwg ar y gwr ieuanc rhytfedd hwn yn myned trwy'r dosbarth," peth a beidiodd erbyn hyn yn y Cyfundeb. Trwyddo yn ddiau yr aeth, gan bre- gethu ar Berffeithio'r Saint," a swyno'r saint a fynnai berffeithio ag enghraifft ryfedd o berffeithrwydd. Gwelsom ef a chlywsom ef y tro cyntaf mewn Cyfarfod Misol yng Nghlosygraig yn 1892. Ni ellid galw glaslanc arno, na glasdwr o bopeth ar ei bregethu ef yr adeg honno. Yr oedd ym mhob ystyr yn yr eithafion arall, ei wynepryd a'i wedd yn awgrymu perffeith- rwydd cerfluniaeth Groeg wedi trafaelu trwy'r Eidal hyd dueddau Môn heb gael nam ar y ffordd, dim ond ei fod wedi deffro'n fyw a gwrido'n iach wrth gyrraedd Cymru. Gwisgai'n well na Method- istiaeth Galfinaidd Cymru yr adeg honno. Darlun o ddyn ydoedd, yn bradychu hefyd rhyw falchter mewnol (ym marn y saint oedd heb eu perffeithio) trwy ormod o hunan-barch, a gorofal am ffrâm y darlun. Gwelsom ddynion eraill wedi hynny-y Dr. Clifford a'r Archesgob Temple er enghraifft-yn yr eithafion arall, popeth yn eu golwg yn awgrymu meddwl wedi ymadael ag allanolion eu person- oliaeth. Ond pan bregethodd Thomas Charles Williams, gwelid mai dameg oedd y dyn oddi allan. Agorid y drws i enaid cain ac aedd- fed, a mwy cain a pherffaith eto oedd ei gyflawniadau cyhoeddus. Ei destunau oedd Ioan xiii. 8, a Heb. xiii. 13 ac er nad yw'r ddwy bregeth hynny yn y gytfrol hon, gwelir yn hon mai yn yr un olyn- iaeth y mae ei destunau. Ni ddewisai ef destun bychan i wneud a fynnai ei hun ag ef, ond rhai mawr yn cyfystyru â chrefydd deufyd, a chrefydd nad oes hawl gan neb i'w phregethu oni wyr am fyd arall ar gyfer y byd hwn. Esbonia'r golygydd inni wahaniaeth ei waith ynglyn â chyfrol- au'r Dr. T. C. Williams o'i gymharu â phregethau'r Dr. John Wil- liams felly ni cheir llawnder perffeithrwydd Dr. Charles Williams tfel pregethwr yn y gyfrol hon. Pregethau wedi eu cipio ydynt, a rhannau, y mae'n debyg, wedi myned gyda'r llif yn yr ymdrech i'w hachub, a darnau eraill wedi eu cleisio megis; ond y pregethwr ei hun sydd ynddynt, a cheir llawn ddigon ohono ynddynt i wneud eu gwerthfawrogiad yn amhrisiadwy-dywem ei lais, gwelem ei law, chwarddem yn wyllt tan y goglais cain, difrifolem dan yr apêl ofn- adwy, a phlygem yn anymwybodol i lawr dan ardderchogrwydd dwy- fol urddas Efengyl gras. Soniodd rhywun am bregethau clòs, rhai na ellir cael cip ar Iesu'r nefoedd trwyddynt. Nid dyma nodwedd y pregethau hyn; rhyddid meistrolgar sydd yn eu gwau, daeth y goruchelder a'r tu fewn i ddyn yn agos i'w gilydd ynddynt. Ar adegau gellid def- nyddio amdanynt ddywediad gŵr mawr am draethodau Montaigne, Pe torrid hwynt â chyllell, gwaedent."