Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. NODIADAU CYFFREDINOL. Y MAE'N debyg y cydolÿgai'r mwyafrif nad oes ne- mor ddim sydd mor bwysig i Ewrob ac i'r byd â heddwch rhwng y cenhedloedd a'i gilydd. Gellir gwahaniaethu mewn íbarn a dadlau'n frwd am y moddion gorau i gyrraedd yr amjcan, eithr fe gytunir yn bur gyff- redinol erbyn hyn fod heddwch yn ddiben sy'n hawlio pob ymgais er ei ennill. Efallai mai yma y gorwedd y cyfnewidiad mwyaf ym mherthynas y Cenhedloedd â'i gilydd wedi'r Rhyfel Mawr. Llithra'n araf i'w Cynad- 1eddau yr ymdeimlad y dylid trafod pynciau rhyngwladol o safbwynt heddwch, ac y mae hwn ynddo'i hun yn gam pwysig ar y ffordd i sylweddoli'r amcan. Ennill nid bychan ydyw hynny o lwyddiant a welir yh yr ymdrech i i drin y problemau yn nhermau heddwch a diarfogiad yn hytrach nag yn nhermau byddin a llynges ac ymerodraeth. Y mae'n eithaf gwir mai'n araf araf y bodlonir i hyn; eit'hr y mae'n ddiamau gennym, pe cymherid sefyllfa meddwl a'c ysbryd Ewrob heddiw â'r hyn oedd 30 mlynedd yn ôl, y cytunid mai'r peth mwyaf gobeithiol sydd i'w ganfod yno ydyw'r ffaith fod y Cenhedloedd yn meddwl am eu problemau yn eu perthynas a/i gilydd yn fwy o saf- bwynt heddwch na chynt. Y mae termau'r ymgais yn wahanol: nid diogelu Ewrob neu'r byd rhag i ryfel dorri allan yn gymaint â sylfaenu'r peth positif hwnnw a elwir yn heddwch; a chyfyd hynny'r peth ar unwaith i fod yn bwnc o feddwl ac ysbryd ac atitiwd. Ond y mae'n ddigon amlwg bod tir lawer i'w feddiannu cyn i'r fagddu fawr droi yn olau dydd. Yng ngoleuni'r ystyriaethau hyn, yr oedd yh ddiddorol iawn sylwi ar y Gynhadledd bwysig a gynhaliwyd yn yr