Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

WILLIAMS PANTYCELYN.* MEWN erthygl a sgrifennais ar Williams yn 1917, blwy- ddyn ei ddeucan mlwyddiant (Welsh Outlook, Mawrth) mentrais awgrymu bod y gwaith Golwg ar Deyrnas Crist" yn gais i lunio epig Cristnogaeth, ac mai epig diwygiadau crefyddol y ddeunawfed ganrif oedd Theo- memphus." Ni dderbyn Mr. Lewis mo'r syniad olaf, o leiaf, ond ar bwys llythyrau anghyhoeddedig a welais, gallwn ei amddiffyn. Cesglais y pryd hwnnw- that Theomemphus lived in Wales during the 18th cehtury, and that the Scriptural events introduced should be understood nguratively Theomemphus is fìction only in a technical sense­no more real work was ever written. Another poem of Williams, Ffydd ac Anghrediniaeth,' shows us that Philomela was a real woman whom 'he must have loved and left. His trials with the false teachers of the poem illustrate the religious history of his period-it would not be difficult for the well-informed to identify some of the characters." Dengys hyh fy mod ar y pryd, megis y mae Mr. Lewis yntau, yn ymwrthod â'r syniad bod Williams wedi ei gau ef ei hun a'i gydnabod allan o'r gerdd. Gan ei fod ef ei hun yn dywedyd yn ddigon pendant iddo wneuthur hynny, yr wyf bellach yn sylweddoli nad dibwys yw'r pwynt, eto holl duedd beirniadaeth lenyddol ddiweddar, yn enwedig y feirniadaeth oddrychol sy'n ceisio gweithio yn 61 y pethau a elwir yn ddeddfau eneidyddiaeth ddiweddar, yw trin pob deunydd o'r fath fel cofnodiad diymwybod o weithrediad- au'r meddwl, pa beth bynnag a ddywedo awdur am ei fwr- iad ac am y pethau yr oedd ef yn amcanu eu cadw allan o'i waith. Yn hyn o beth, felly, tybiaf fod Mr. Lewis a min- nau yn cytuno, er bod rhyngom rai gwahaniaethau y caf eu crybwyll eto. Y mae'n wir bod y syniad hwn yn codi Am y rhan gyntaf o'r ysgráf hon, gweler Y Traethodydd, Hydref, 1929, td. I97—204.