Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

UNDEB YR EGLWYSI YN YR YSGOTLAND. YN hanes yr Ysgotland, hanes yr Eglwys a'r Wladwriaeth fel ei gilydd, amlycach, hyd yn ddiweddar, a fu brwydro am annibyniaeth hag ymdrechu am undeb. John Knox, yn 1560, a sefydlodd yno Brotestaniaeth fel crefydd genedlaethol, a Phresbyteriaeth fe'l ffurflyw- odraeth eglwysig. Er i'r Goron ymyrryd am ganrif arall, ymwrthododd y genedl yn llwyr ag Esgobyddiaeth yn 1690. Glynodd rhai wrthi, ac o'r rhwyg hwn, y cyntaf ym Mhrotestaniaeth yr Ysgotland, y tarddodd yr Eglwys Esgobol Ysgotaidd. Ganwyd Presbyteriaeth," edliwiai Mathew Arnold uhwaith, i ymrannu fel yr ehêd y wreichionen i fyny." Cyn y gellir deall gorchest fawr yr uno diwethaf, rhaid yw sylweddoli nifer a phwysigrwydd yr ymraniadau. I. Achoswyd yr ymraniad ,cyntaf yn yr undeb Presbyter- aidd pan gododd Richard Cameron a'i ganlynwyr faner gwrthryfel yn erbyn ymdrechion y Wladwriaeth i gyfyngu ar eu rhyddid. Ni ddaeth ffurf eglwysig arno hyd 1743, pryd y ffurfiwyd yr Henaduriaeth Ddiwygiedig (Reformed Presbytery). Cyn 'hyh yr oedd dylanwadau eraill yn paratoi'r ffordd at ymraniadau pellach. Unwyd Seneddau Lloegr a'r Ysgotland yn 1707, ond ni ddug hynny heddwch i fywyd crefyddol yr Ysgotland. Yn hytrach, gwnaeth Lloegr gam â'r Ys'gotland drwy wthio arni Ddeddf Nawddog- aeth (Patronage Act) yn 1712, yr hon a ysbeiliai'r Eglwys o'i hawl i ddewis ei gweinidogion. Ebenezer Erskine oedd prif apostol rhyddid ysbrydol. Aeth ef a'i ganlyn- wyr allan o'r Eglwys Sefydledig, a ffurfiwyd Eglwys y Gwahaniad (Secession Church) yn 1733. Yh fuan ymran- nodd y Gwahanwyr drwy or-gydwybodolrwydd ar ystyr y llw yn y llysoedd dinesig, ac achoswyd y trydydd rhwyg yn yr Eglwys.